undijgdfjgdfjigdfCryfhau ein ymrwymiad i gynaliadwyedd yn ystod y pandemig

Mae Gorilla, prif gwmni ôl-gynhyrchu Cymru, wedi cryfhau ei ymrwymiad i gynaliadwyedd drwy ddod yn aelod cyswllt o raglen albert BAFTA yn ddiweddar.

Nod rhaglen albert BAFTA, a sefydlwyd yn 2011, yw dod â’r diwydiannau sgrin ynghyd i fynd i’r afael â’r effaith amgylcheddol, ac i ysbrydoli ffyrdd cynaliadwy o fyw.

Yn yr un modd â nifer o sectorau, mae gan y diwydiannau creadigol ôl troed carbon mawr, ac nid yw hyn wedi newid yn ystod y pandemig. Mae creu cynnwys cyfryngau yn aml yn gofyn am adnoddau helaeth – hyd yn oed ar gyfer y pethau symlaf fel teithio, bwyta, a defnyddio mwy nag un adeilad.

Targed Gorilla yw defnyddio 100% o ynni adnewyddadwy yn ei holl leoliadau. Rydym eisoes wedi llwyddo i gyrraedd y targed hwn yn ein gyfleuster ar Heol Eglwys Fair. Mae Gorilla wedi ennill ardystiad ISO 14001 hefyd ond fel y gwyddai Rich Moss, y Rheolwr Gyfarwyddwr, megis dechrau yw hyn:

“Mae’n ymddangos bod materion amgylcheddol wedi cael eu hanghofio i raddau yn ystod y pandemig, felly mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i wneud ein gorau i leihau ein hôl troed fel unigolion ac fel diwydiant.”

Mae Gorilla hefyd yn creu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ôl troed carbon y diwydiant. Gyda chymorth gan raglen Clwstwr De Cymru ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU, rydyn ni wedi newydd ddatgelu pecyn adnoddau golygu o bell newydd, sy’n caniatáu’r tîm i weithio lle bynnag maen nhw.

undijgdfjgdfjigdfCadw’n ddiogel yn ystod cyfnod Coronafeirws (COVID-19)

Rydym wedi asesu’r risg o COVID-19 yn Gorilla trwy gymhwyso canllawiau’r llywodraeth, a thrwy gyfrannu at a dilyn canllawiau UK Screen, “Safe Working in Post Production and VFX” ar draws ein busnes, i reoli risgiau diogelwch ac iechyd.

Rydym wedi parhau i weithio o bell  trwy gydol y cyfyngiadau, a heb ruthro i gynnull ein staff sy’n gweithio o bell yn ôl yn y gweithle. Rydym wedi cymryd amser i fyfyrio a pharatoi ar gyfer dychwelyd fesul cam i’n normal newydd. Disgwyliwn i’n dull esblygu wrth i ni ddysgu ac addasu i heriau parhaus COVID-19.

Sut rydyn ni’n cadw pobl yn ddiogel

Rydym yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol er mwyn sicrhau ein bod yn rheoli lledaeniad COVID-19, gan gynnal asesiadau penodol ar gyfer cynyrchiadau a’n swyddfeydd, ac yn cadw mewn cysylltiad â’r gweithlu trwy gydol y broses:

 

  1. Yn ein swyddfeydd

  • Lleihau – lleihau nifer y bobl yn y swyddfa ar unrhyw adeg.
  • Cyfathrebu – sicrhau bod y rhai sydd â symptomau neu sy’n sâl yn gwybod i beidio â dod i mewn i’r gwaith.
  • Cymudo – ystyried risgiau wrth gymudo, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chyflwyno mesurau fel amseroedd cychwyn wedi eu darwahanu.
  • Pellter Cymdeithasol – gwneud pob ymdrech i sicrhau y cedwir at bellter cymdeithasol trwy gynllunio gofod, protocolau ac arwyddion.
  • Glanhau – ychwanegu at y protocolau glanhau.
  • Gorchudd wyneb – darparu gorchuddion wyneb golchadwy i’r rhai a allai fod eu hangen wrth gymudo, ac i’w gwisgo mewn ardaloedd o’r swyddfa lle gellir torri pellter cymdeithasol ar ddamwain ar brydiau.
  • Monitro – atgoffa pobl yn gyson o’r arferion gwaith COVID-19 newydd (fel pellhau cymdeithasol).

 

  1. Yn ein gweithgareddau

  • Teithio – ceisio lleihau gofynion teithio a dilyn egwyddorion pellhau cymdeithasol o fewn trefniadau teithio, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
  • Lleoliad – ystyried y gofod a ddefnyddir, o ystyried gofynion pellter cymdeithasol, ynghyd â sicrhau bod cyfleusterau hylendid digonol yn cael eu darparu.
  • Gweithgareddau Gwaith – ystyried y gweithgareddau y bydd angen i bobl eu cyflawni ar draws rolau, ac a oes modd addasu’r rhain neu eu newid er mwyn lleihau risg.
  • Offer Gwaith – rheoli rhannu offer, o gamerâu a chlustffonau i ystafelloedd golygu. Canolbwyntio ar hylendid da a rheoli unrhyw faterion all godi gyda phwyntiau cyffwrdd.
  • Patrymau Gwaith – adolygu patrymau gwaith er mwyn annog ffurfio grwpiau bach (carfannau) o bobl nad ydyn nhw’n dod i gysylltiad â grwpiau eraill.
  • Ardaloedd Gorffwys – ad-drefnu mannau gorffwys a chynllunio seibiannau i sicrhau bod ardaloedd gorffwys mor ddiogel â phosibl.
  • Cymorth Cyntaf a Gwasanaethau Brys – cynllunio gweithgareddau i leihau’r risg o fod angen

galw’r gwasanaethau brys, yn ogystal â chyngor i swyddogion cymorth cyntaf ar risg COVID-19.

  • Masgiau, Menig ac Offer Amddiffynnol Personol Eraill – dilyn arweiniad y llywodraeth trwy beidio ag annog defnydd heblaw mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, ac i’r rheini sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Iechyd Meddwl – adolygu’r effaith bosibl ar iechyd meddwl y rheini sy’n gweithio ar gynyrchiadau a chynnig cefnogaeth ar sail achosion unigol.

 

Rydym yn angerddol bod gan bawb lais y gwrandewir arno, felly os ydych chi’n poeni am unrhyw beth sy’n ymwneud â’n dyletswydd gofal ac, yn fwy penodol, y risgiau sy’n gysylltiedig â Choronafeirws (COVID-19) i chi neu i eraill, rhowch wybod i ni yn hr@gorilla-group-tv.onyx-sites.io

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn darparu gorffeniadau ar gyfer cyfres newydd Doctor Who

Gorilla provides online and finishing for new series of Doctor Who

Weler cydweithrediad cyffrous dros yr Hydref rhwng Gorilla a BBC Studios ar gyfer drama ffug-wyddonol adnabyddus. Wedi gorffen ffilmio yn gynnar ym mis Awst, mae ein timau ôl-gynhyrchu newydd orffen y broses olygu ar gyfer y gyfres newydd o Doctor Who a ddarlledwyd y penwythnos diwethaf.

Yn dilyn galw uchel am waith eleni, yn ddiweddar rydym wedi ehangu i Gaerdydd ganolog, gan ategu ein Pencadlys ym Mae Caerdydd. Mae’r ail adeilad yn cynnwys 10 ystafell golygu barhaol a chymorth technegol. Ar hyn o bryd rydym yn mynd o nerth i nerth, yn ogystal â hyn rydym yn cynyddu’r cynhwysedd yn y lleoliad gwreiddiol gyda llawr newydd a 20 o ystafelloedd golygu ychwanegol gyda lle cynhyrchu hyblyg.

Meddai Rich Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla: “Ry’ ni’n hynod o falch o fod yn gweithio gyda BBC Studios ochr yn ochr â BBC Cymru a chyflenwyr lleol eraill ar gyfres o broffil uchel ac un sydd mor bwysig o Gymru. Doctor Who oedd y catalydd gwreiddiol ar gyfer twf Drama yng Nghymru felly mae’n wych i fod yn rhan o’r tîm.”

Wrth greu hanes fel y Doctor benywaidd cyntaf i chwarae’r rôl, mae Jodie Whittaker yn cymryd lle Peter Capaldi fel y trydydd Doctor ar ddeg. Bydd prif rôl fenywaidd ynghyd a rhestr hir o staff newydd yn rhoi teimlad newydd i’r ddrama deulu cyfarwydd. Heb y Daleks a Cybermen enwog, anelir i gyrraedd cynulleidfa ehangach sy’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol gyda phob pennod.

Mae nifer o wynebau newydd wedi ymuno a Jodie Whittaker ar ei anturiaethau gan gynnwys y cydymaith Bradley Walsh sy’n chwarae rôl Graham, ynghyd a Tosin Cole a Mandip Gill. Mae grŵp anrhydeddus o ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr gyda chefndiroedd ac arddulliau amrywiol yn arwain y gyfres newydd hon. Mae Malorie Blackman, sy’n enwog am Noughts and Crosses yn ymuno ag ysgrifennwr Skins, Ed Hime ac ysgrifennwr Casualty a dramodydd Joy Wilkinson, bydd y rhain yn dod ac egni newydd i’r sioe. Dywed fod y prif ysgrifennwr, Chris Chibnall, sydd fwyaf enwog am Torchwood a Broadchurch am ysgrifennu pum pennod ac yn gobeithio bydd y gyfres yn tynnu mewn cefnogwyr newydd.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gorilla, Paul Owen: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o stori llwyddiant arbennig yng Nghymru. Mae’r brand Doctor Who yn rhywbeth arbennig iawn i fod yn rhan ohono.” Bydd gan y gyfres newydd 10  pennod ac un arbennig am Nadolig, gyda phob pennod o’r gyfres yn cael ei ddarlledu ar ddydd Sul am y tro cyntaf yn hanes y sioe.

Am fwy o wybodaeth: https://www.bbc.co.uk/programmes/b006q2x0

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn ehangu i gyfleuster newydd yng nghanol Caerdydd

Gorilla expands with a new facility in central Cardiff

Rydym wedi agor ail gyfleuster ger ein hen safle ar Heol y Gadeirlan sy’n cynnwys 10 ystafell golygu barhaol gyda derbynfa a chymorth technegol i gefnogi ein pencadlys ym Mae Caerdydd.

Mae lleoliad y cyfleuster newydd hwn ger Gerddi Sophia, Caerdydd, yn darparu lleoliad canolog a pharcio cyfleus. Ar gyfer cwmnïau cynhyrchu, mae’n cynnig gofod swyddfa tymor byr neu barhaol a phosibiliadau diddiwedd i ehangu’r ystafelloedd olygu trwy swyddfeydd cysylltiedig. Mae’r cyfleuster newydd hwn yn cynnig adnoddau ar y safle ar gost isel gyda’r hyblygrwydd o’r ardaloedd cynhyrchu i fod yn unrhyw siâp, maint neu hyd o’r brydles.

Ymysg y prosiectau cyntaf yn y cyfleuster newydd mae Teen Taxi (cyfres 24-rhan gan gwmni cynhyrchu, Dragonfly) a The Big Family Cooking Showdown (cyfres Teledu Voltage 14×60 munud ar gyfer BBC2).

Rydym hefyd yn anelu i gynyddu maint ein pencadlys presennol yn GloWorks ym Mae Caerdydd, gyda llawr newydd a 20 o ystafelloedd golygu ychwanegol a mwy o le cynhyrchu hyblyg.

Fel rhan o’r ehangiad, rydym wrthi’n recriwtio staff profiadol ychwanegol. Mae gorsaf drên Canolog Caerdydd yn bellter cerdded o leoliad yr uned newydd a fydd o fudd i gymudwyr newydd sy’n ymuno â’r tîm creadigol sy’n tyfu.

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn llongyfarch Enwebeion BAFTA Cymru 2018

Bafta Cymru

Rydym yn hynod o falch o’r holl enwebeion rydym wedi gweithio efo ar gyfer BAFTA Cymru eleni. Bydd y Gwobrau’n cael eu cyflwyno ar draws 20 o gategorïau cynhyrchu, perfformio, crefft a gemau.

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (a noddir gan Capital Law)

  • IAN MICHAEL JONES ar gyfer Frank Lloyd Wright: The Man Who Built America
  • MOLLY-ANNA WOODS ar gyfer Sweet Sixteen: A Transgender Story

CYFARWYDDWR: FFUGLEN (a noddir gan Champagne Taittinger)

  • BRUCE GOODISON ar gyfer Born to Kill
  • PHILIP JOHN ar gyfer Bang
  • EUROS LYN ar gyfer Kiri

GOLYGU (a noddir gan Gorilla)

  • DAFYDD HUNT ar gyfer Bang
  • JOHN RICHARDS ar gyfer Born to Kill
  • MADOC ROBERTS, JOHN PARKER a DAFYDD HUNT ar gyfer Warship

RHAGLEN ADLONIANT

  • ONLY MEN ALOUD IN BOLLYWOOD
  • SALON

CYFRES FFEITHIOL (a noddir gan Villa Maria)

  • CERYS MATTHEWS A’R GOEDEN FALED
  • ONE BORN EVERY MINUTE
  • SURGEONS: AT THE EDGE OF LIFE

CYFLWYNYDD (a noddir gan Deloitte)

  • CHARLOTTE CHURCH YN Charlotte Church: Inside My Brain

FFILM FER (a noddir gan Brifysgol De Cymru)

  • BEDDGELERT
  • HELFA’R HELI

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL (a noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

  • CHARLOTTE CHURCH – INSIDE MY BRAIN

DRAMA DELEDU

  • BANG
  • BORN TO KILL
  • PARCH

Bydd y 27ain seremoni’n cael ei chynnal ar 14 Hydref 2018 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac fe’i harweinir gan Huw Stephens am y bedwaredd flwyddyn. Dymuna Gorilla pob lwc i bob un o’r enwebeion a rydym yn edrych ymlaen at ddathlu gyda chi ar y noson!

undijgdfjgdfjigdfGorilla a Milk VFX yn cydweithio i ddod ag ysgolion lleol i Ŵyl Into Film

Gorilla and Milk VFX team up to bring local schools to Into Film Festival

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda stiwdio effeithiau gweledol a’n cymydog yma yn GloWorks, Milk VFX, i helpu i ddod a phlant ysgolion lleol i ddangosiadau ffilm sydd yn digwydd ar draws Cymru fis yma fel rhan o Ŵyl Into Film.

Gyda’n gilydd rydym wedi noddi saith o fysiau i ddod â 500 o bobl ifanc a’u hathrawon o bedair ysgol ar draws De Cymru i Gaerdydd i fynychu’r dangosiadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau Gŵyl Into Film 2016 sy’n digwydd o’r 9fed i’r 25ain o Dachwedd.

Into Film yw gŵyl ffilm ieuenctid mwyaf y byd gyda rhaglen amrywiol gan gynnwys llu o ddangosiadau a digwyddiadau am ddim ar gyfer pobl ifanc 5-19 mlwydd oed.  Yn ystod yr ŵyl eleni fydd mwy na 185 o ddangosiadau a digwyddiadau ar draws Gymru yn arddangos popeth o ffilmiau arbenigol a glasurol i ‘Blockbusters’ newydd – pob un wedi’i dewis gydag addysgwyr mewn golwg a gyda’r nod o ddenu cenedlaethau newydd i’r byd ffilm.

Yr ysgolion sy’n cymryd rhan yw: Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn, Gelli; Ysgol yr Eglwys Tref Aberdâr, Aberdâr; Ysgol Iau Parc Cyfarthfa, Merthyr Tudful; ac Ysgol Uwchradd Pen-y-dre, Merthyr Tudful.

Bydd Gorilla a Milk yn parhau i gefnogi Into Ffilm Cymru tu hwnt i’r ŵyl er mwyn helpu i greu fwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â’r byd ffilm. Rydym hefyd yn gobeithio darganfod cwmnïau tebyg eraill yn y diwydiant ffilm a theledu ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

Dywedodd Rich Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla: “Fel cwmni balch Cymraeg, rydym wrth ein bodd i fod yn cefnogi ymdrechion Into Ffilm i ymgysylltu cynulleidfaoedd ifanc ar draws Cymru ym myd rhyfeddol ffilm.  Mae Cymru yn llawn talent greadigol, ffres ac rydym yn gobeithio drwy roi’r cyfle i blant ysgol fynychu dangosiadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithdai fel hyn gallwn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent  i greu ffilmiau yma”.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Milk Will Cohen: “Rydym yn falch iawn o allu helpu ysgolion lleol i gymryd rhan yng Ngŵyl Into Film ac i gefnogi’r gwaith gwych mae Into Film yn ei wneud wrth ddod â ffilm yn rhan ganolog addysg pobl ifanc. Rydym yn gobeithio y gallem hyd yn oed ysbrydoli rhai ohonynt i feddwl am yrfa yn y diwydiant teledu a ffilm yn y dyfodol! Mae gan ffilm y grym i drawsnewid bywydau pobl.”

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn helpu i goffáu 50 mlynedd ers trychineb Aberfan

Gorilla helps commemorate 50th anniversary of the Aberfan disaster

Ym mis Hydref 2016 bydd pobl ar draws Cymru yn nodi hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan a welodd 116 o blant a 28 o oedolion cael eu lladd yn dilyn tirlithriad yn y pentref glofaol ar Hydref 21, 1966. Cafodd y digwyddiad trasig yma effaith ddinistriol ar y gymuned leol sydd yn parhau i gael ei heffeithio heddiw.

Mae nifer o raglenni teledu wedi cael eu comisiynu i goffáu 50 mlynedd ers y trychineb – mae Gorilla wedi cymryd rhan mewn tri o’r rhain:

Cantata Memoria – Rondo Media ar gyfer S4C

Cyngerdd arbennig o Ganolfan Mileniwm Cymru i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan yn cynnwys perfformiadau gan y bas-bariton Bryn Terfel, y soprano Elin Manahan Thomas a’r delynores Catrin Finch yn ogystal â gwaith newydd gan y cyfansoddwr adnabyddus Syr Karl Jenkins.

Defnyddiodd Gorilla dechnoleg Quadrus i recordio’r perfformiad dros nifer o sianeli ar gyfer ei ddarlledu ar S4C.

The Aberfan Young Wives’ Club – Shiver Cymru (ITV Factual/ITV Cymru Wales) ar gyfer ITV

Dogfen wreiddiol sy’n adrodd hanes trychineb Aberfan trwy lygaid saith menyw sy’n rhan o Glwb Gwragedd Ifanc Aberfan. Wedi’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr adnabyddus Marc Evans, mae’r rhaglen yn cynnwys archif o hen ffilmiau o’r trychineb a’r digwyddiadau oedd i ddilyn gyda cherddoriaeth arbennig a gyfansoddwyd gan James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers.

Fe wnaeth Gorilla weithio ar y dybio, cwblhau’r gwaith graddio ar Baselight a’r golygu ar-lein ar y rhaglen.

Surviving Aberfan – Testimony Films ar gyfer BBC 1 Wales

Dogfen yn cyfuno ffilm o’r archif gyda phobl heddiw, a phob un yn dweud eu straeon am y golled drasig, goroesi gwyrthiol ac achubiaeth arwrol. Siarada rhai o’r goroeswyr am y tro cyntaf am ddiwrnod mwyaf dirdynnol eu bywydau, a sut y maent wedi byw gyda’r atgof am hanner canrif. Portread agos a theimladwy o’r gymuned wnaeth ddioddef y trychineb torcalonnus, ac eto rywsut yn dod o hyd i’r nerth i barhau gyda gobaith ac urddas.

Aberfan: The Day our Lives Changed – ITV Cymru Wales

Dogfen awr o hyd sy’n adrodd hanes Phillip Thomas, un o’r goroeswyr a anafwyd gwaethaf o drychineb Aberfan, yn cofio’r digwyddiadau 21 Hydref 1966 pan fu’n ddisgybl 10 oed yn Ysgol Gynradd Pantglas. Yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai a gollodd anwyliaid a’r rhai o’r rheiny a fu’n ymwneud a’r gwaith achub, mae’r rhaglen yn cynnig persbectif emosiynol ar effaith y trychineb ar y gymuned leol a chryfder yr ysbryd dynol.

Fe wnaeth Gorilla ddybio’r rhaglen.

Fel cwmni Cymreig balch, rydym yn falch o chwarae rhan yn y cynyrchiadau pwysig yma, gyda phob un ohonynt yn cynnig safbwynt gwahanol ar y digwyddiad trasig yn hanes Cymru.

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn falch o noddi Gwobr Iris 2016

Gorilla proud to sponsor the 2016 Iris Prize

Rydym yn falch iawn o noddi Gŵyl Gwobr Iris eto eleni, wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yng Nghaerdydd wythnos yma.

Mae’r digwyddiad blynyddol, sy’n dathlu’r diwydiant ffilmiau hoyw a lesbiaidd rhyngwladol, yn cael ei gynnal yn y brifddinas rhwng 12 ac 16 o Hydref, gyda’r brif seremoni wobrwyo yn digwydd yn Park Hotel ar Ddydd Sul 16 Hydref.

Mae’r Wobr Iris yn parhau i fod y wobr fwyaf yn y byd ar gyfer ffilmiau hoyw a lesbiaidd, gyda’r enillydd yn derbyn £30,000 i greu eu ffilm fer nesaf ym Mhrydain yn ogystal â chyllid a llu o gefnogaeth ac arweiniad gan Iris, ei noddwyr a’i chefnogwyr . Mae Gorilla yn falch iawn o fod wrth law unwaith eto eleni i gynnig arweiniad a chymorth ôl-gynhyrchu i’r enillydd fel rhan o’r wobr.

Uchafbwynt y seremoni wobrwyo eleni fydd ymddangosiad yr Arglwydd Glendonbrook fydd yn cyhoeddi’r 10fed enillydd o’r Wobr Iris.

Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl ac i brynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o’r digwyddiadau, ewch i wefan Gwobr Iris.

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn ennill gwaith ôl-gynhyrchu ar gyfres One Born Every Minute

One Born Every Minute

Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi bod Gorilla wedi ennill cytundeb i gwblhau gwaith ôl-gynhyrchu ar gyfres nesaf rhaglen ffeithiol rig-sengl Channel 4 One Born Every Minute.

Bydd y gyfres 10x1awr poblogaidd yn cael ei ffilmio yn uned famolaeth Lerpwl cyn cael ei ôl-gynhyrchu yn ein pencadlys yng Nghaerdydd.

Mae’n foment balch iawn i ni fel cwmni gan taw hwn fydd ein prosiect rig-sengl cyntaf a taw ni yw’r cwmni ôl-gynhyrchu Cymraeg cyntaf i weithio ar brosiect fel hyn.

Dywedodd Rich Moss, ein Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym yn hynod o falch o gael gweithio gyda Dragonfly ar y gyfres boblogaidd yma. Mae rhaglennu rig-sengl yn faes anodd i dorri i mewn iddo felly rydym yn croesawu’r hyder a ddangoswyd gan Dragonfly a Channel 4 wrth ddewis cwmni Cymreig fel ni”.

Daw’r newyddion da yma ar ôl derbyn cadarnhad yn ddiweddar y byddwn yn ôl-gynhyrchu’r rhaglen Decline and Fall ar gyfer Tiger Aspect ac ennill ar ôl ennill cytundeb marchnata BBC Promos sydd yn golygu taw Gorilla yw’r unig ddarparwr gwasanaethau ôl-gynhyrchu allanol i’r BBC Wales Creative Services yn ystod y ddegawd ddiwethaf.

undijgdfjgdfjigdfRheolwr Gyfarwyddwr Gorilla Rich Moss yn ymuno â bwrdd Screen UK

Richard Moss

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein rheolwr gyfarwyddwr Rich Moss wedi cael ei ethol i eistedd ar Fwrdd y Gymdeithas Screen UK.

Mae Rich yn ymuno â grŵp uchel ei barch o gynrychiolwyr y diwydiant ar y Bwrdd sy’n cynnwys cyfarwyddwyr o gwmnïau sy’n darparu cyfleusterau cynhyrchu a gwasanaethau arbenigol i’r diwydiannau sgrin – ffilm, teledu a hysbysebion.

Ar gael ei ethol, dywed Rich, “Mae’r Diwydiannau Creadigol mor berthnasol a phwysig nag erioed i Gymru, mewn ffyrdd diwylliannol ac economaidd, ac rwy’n edrych ymlaen at ddod â mewnbwn cadarnhaol o safbwynt y Cenhedloedd i Screen UK.”

Mae Screen UK yn gorff annibynnol, a ariennir gan y diwydiant sy’n gweithio i hyrwyddo sector gwasanaethau sgrin deg, iach a chystadleuol ym Mhrydain. Bydd y bwrdd newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 28ain o Fehefin.