News Newyddion

Gorilla yn darparu gorffeniadau ar gyfer cyfres newydd Doctor Who

Weler cydweithrediad cyffrous dros yr Hydref rhwng Gorilla a BBC Studios ar gyfer drama ffug-wyddonol adnabyddus. Wedi gorffen ffilmio yn gynnar ym mis Awst, mae ein timau ôl-gynhyrchu newydd orffen y broses olygu ar gyfer y gyfres newydd o Doctor Who a ddarlledwyd y penwythnos diwethaf.

Yn dilyn galw uchel am waith eleni, yn ddiweddar rydym wedi ehangu i Gaerdydd ganolog, gan ategu ein Pencadlys ym Mae Caerdydd. Mae’r ail adeilad yn cynnwys 10 ystafell golygu barhaol a chymorth technegol. Ar hyn o bryd rydym yn mynd o nerth i nerth, yn ogystal â hyn rydym yn cynyddu’r cynhwysedd yn y lleoliad gwreiddiol gyda llawr newydd a 20 o ystafelloedd golygu ychwanegol gyda lle cynhyrchu hyblyg.

Meddai Rich Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla: “Ry’ ni’n hynod o falch o fod yn gweithio gyda BBC Studios ochr yn ochr â BBC Cymru a chyflenwyr lleol eraill ar gyfres o broffil uchel ac un sydd mor bwysig o Gymru. Doctor Who oedd y catalydd gwreiddiol ar gyfer twf Drama yng Nghymru felly mae’n wych i fod yn rhan o’r tîm.”

Wrth greu hanes fel y Doctor benywaidd cyntaf i chwarae’r rôl, mae Jodie Whittaker yn cymryd lle Peter Capaldi fel y trydydd Doctor ar ddeg. Bydd prif rôl fenywaidd ynghyd a rhestr hir o staff newydd yn rhoi teimlad newydd i’r ddrama deulu cyfarwydd. Heb y Daleks a Cybermen enwog, anelir i gyrraedd cynulleidfa ehangach sy’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol gyda phob pennod.

Mae nifer o wynebau newydd wedi ymuno a Jodie Whittaker ar ei anturiaethau gan gynnwys y cydymaith Bradley Walsh sy’n chwarae rôl Graham, ynghyd a Tosin Cole a Mandip Gill. Mae grŵp anrhydeddus o ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr gyda chefndiroedd ac arddulliau amrywiol yn arwain y gyfres newydd hon. Mae Malorie Blackman, sy’n enwog am Noughts and Crosses yn ymuno ag ysgrifennwr Skins, Ed Hime ac ysgrifennwr Casualty a dramodydd Joy Wilkinson, bydd y rhain yn dod ac egni newydd i’r sioe. Dywed fod y prif ysgrifennwr, Chris Chibnall, sydd fwyaf enwog am Torchwood a Broadchurch am ysgrifennu pum pennod ac yn gobeithio bydd y gyfres yn tynnu mewn cefnogwyr newydd.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gorilla, Paul Owen: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o stori llwyddiant arbennig yng Nghymru. Mae’r brand Doctor Who yn rhywbeth arbennig iawn i fod yn rhan ohono.” Bydd gan y gyfres newydd 10  pennod ac un arbennig am Nadolig, gyda phob pennod o’r gyfres yn cael ei ddarlledu ar ddydd Sul am y tro cyntaf yn hanes y sioe.

Am fwy o wybodaeth: https://www.bbc.co.uk/programmes/b006q2x0