News Newyddion

Cadw’n ddiogel yn ystod cyfnod Coronafeirws (COVID-19)

Rydym wedi asesu’r risg o COVID-19 yn Gorilla trwy gymhwyso canllawiau’r llywodraeth, a thrwy gyfrannu at a dilyn canllawiau UK Screen, “Safe Working in Post Production and VFX” ar draws ein busnes, i reoli risgiau diogelwch ac iechyd.

Rydym wedi parhau i weithio o bell  trwy gydol y cyfyngiadau, a heb ruthro i gynnull ein staff sy’n gweithio o bell yn ôl yn y gweithle. Rydym wedi cymryd amser i fyfyrio a pharatoi ar gyfer dychwelyd fesul cam i’n normal newydd. Disgwyliwn i’n dull esblygu wrth i ni ddysgu ac addasu i heriau parhaus COVID-19.

Sut rydyn ni’n cadw pobl yn ddiogel

Rydym yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol er mwyn sicrhau ein bod yn rheoli lledaeniad COVID-19, gan gynnal asesiadau penodol ar gyfer cynyrchiadau a’n swyddfeydd, ac yn cadw mewn cysylltiad â’r gweithlu trwy gydol y broses:

 

  1. Yn ein swyddfeydd

  • Lleihau – lleihau nifer y bobl yn y swyddfa ar unrhyw adeg.
  • Cyfathrebu – sicrhau bod y rhai sydd â symptomau neu sy’n sâl yn gwybod i beidio â dod i mewn i’r gwaith.
  • Cymudo – ystyried risgiau wrth gymudo, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chyflwyno mesurau fel amseroedd cychwyn wedi eu darwahanu.
  • Pellter Cymdeithasol – gwneud pob ymdrech i sicrhau y cedwir at bellter cymdeithasol trwy gynllunio gofod, protocolau ac arwyddion.
  • Glanhau – ychwanegu at y protocolau glanhau.
  • Gorchudd wyneb – darparu gorchuddion wyneb golchadwy i’r rhai a allai fod eu hangen wrth gymudo, ac i’w gwisgo mewn ardaloedd o’r swyddfa lle gellir torri pellter cymdeithasol ar ddamwain ar brydiau.
  • Monitro – atgoffa pobl yn gyson o’r arferion gwaith COVID-19 newydd (fel pellhau cymdeithasol).

 

  1. Yn ein gweithgareddau

  • Teithio – ceisio lleihau gofynion teithio a dilyn egwyddorion pellhau cymdeithasol o fewn trefniadau teithio, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
  • Lleoliad – ystyried y gofod a ddefnyddir, o ystyried gofynion pellter cymdeithasol, ynghyd â sicrhau bod cyfleusterau hylendid digonol yn cael eu darparu.
  • Gweithgareddau Gwaith – ystyried y gweithgareddau y bydd angen i bobl eu cyflawni ar draws rolau, ac a oes modd addasu’r rhain neu eu newid er mwyn lleihau risg.
  • Offer Gwaith – rheoli rhannu offer, o gamerâu a chlustffonau i ystafelloedd golygu. Canolbwyntio ar hylendid da a rheoli unrhyw faterion all godi gyda phwyntiau cyffwrdd.
  • Patrymau Gwaith – adolygu patrymau gwaith er mwyn annog ffurfio grwpiau bach (carfannau) o bobl nad ydyn nhw’n dod i gysylltiad â grwpiau eraill.
  • Ardaloedd Gorffwys – ad-drefnu mannau gorffwys a chynllunio seibiannau i sicrhau bod ardaloedd gorffwys mor ddiogel â phosibl.
  • Cymorth Cyntaf a Gwasanaethau Brys – cynllunio gweithgareddau i leihau’r risg o fod angen

galw’r gwasanaethau brys, yn ogystal â chyngor i swyddogion cymorth cyntaf ar risg COVID-19.

  • Masgiau, Menig ac Offer Amddiffynnol Personol Eraill – dilyn arweiniad y llywodraeth trwy beidio ag annog defnydd heblaw mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, ac i’r rheini sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Iechyd Meddwl – adolygu’r effaith bosibl ar iechyd meddwl y rheini sy’n gweithio ar gynyrchiadau a chynnig cefnogaeth ar sail achosion unigol.

 

Rydym yn angerddol bod gan bawb lais y gwrandewir arno, felly os ydych chi’n poeni am unrhyw beth sy’n ymwneud â’n dyletswydd gofal ac, yn fwy penodol, y risgiau sy’n gysylltiedig â Choronafeirws (COVID-19) i chi neu i eraill, rhowch wybod i ni yn hr@gorilla-group-tv.onyx-sites.io