News Newyddion

Gorilla a Milk VFX yn cydweithio i ddod ag ysgolion lleol i Ŵyl Into Film

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda stiwdio effeithiau gweledol a’n cymydog yma yn GloWorks, Milk VFX, i helpu i ddod a phlant ysgolion lleol i ddangosiadau ffilm sydd yn digwydd ar draws Cymru fis yma fel rhan o Ŵyl Into Film.

Gyda’n gilydd rydym wedi noddi saith o fysiau i ddod â 500 o bobl ifanc a’u hathrawon o bedair ysgol ar draws De Cymru i Gaerdydd i fynychu’r dangosiadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau Gŵyl Into Film 2016 sy’n digwydd o’r 9fed i’r 25ain o Dachwedd.

Into Film yw gŵyl ffilm ieuenctid mwyaf y byd gyda rhaglen amrywiol gan gynnwys llu o ddangosiadau a digwyddiadau am ddim ar gyfer pobl ifanc 5-19 mlwydd oed.  Yn ystod yr ŵyl eleni fydd mwy na 185 o ddangosiadau a digwyddiadau ar draws Gymru yn arddangos popeth o ffilmiau arbenigol a glasurol i ‘Blockbusters’ newydd – pob un wedi’i dewis gydag addysgwyr mewn golwg a gyda’r nod o ddenu cenedlaethau newydd i’r byd ffilm.

Yr ysgolion sy’n cymryd rhan yw: Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn, Gelli; Ysgol yr Eglwys Tref Aberdâr, Aberdâr; Ysgol Iau Parc Cyfarthfa, Merthyr Tudful; ac Ysgol Uwchradd Pen-y-dre, Merthyr Tudful.

Bydd Gorilla a Milk yn parhau i gefnogi Into Ffilm Cymru tu hwnt i’r ŵyl er mwyn helpu i greu fwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â’r byd ffilm. Rydym hefyd yn gobeithio darganfod cwmnïau tebyg eraill yn y diwydiant ffilm a theledu ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

Dywedodd Rich Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla: “Fel cwmni balch Cymraeg, rydym wrth ein bodd i fod yn cefnogi ymdrechion Into Ffilm i ymgysylltu cynulleidfaoedd ifanc ar draws Cymru ym myd rhyfeddol ffilm.  Mae Cymru yn llawn talent greadigol, ffres ac rydym yn gobeithio drwy roi’r cyfle i blant ysgol fynychu dangosiadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithdai fel hyn gallwn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent  i greu ffilmiau yma”.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Milk Will Cohen: “Rydym yn falch iawn o allu helpu ysgolion lleol i gymryd rhan yng Ngŵyl Into Film ac i gefnogi’r gwaith gwych mae Into Film yn ei wneud wrth ddod â ffilm yn rhan ganolog addysg pobl ifanc. Rydym yn gobeithio y gallem hyd yn oed ysbrydoli rhai ohonynt i feddwl am yrfa yn y diwydiant teledu a ffilm yn y dyfodol! Mae gan ffilm y grym i drawsnewid bywydau pobl.”