News Newyddion

Gorilla yn falch o noddi Gwobr Iris 2016

Rydym yn falch iawn o noddi Gŵyl Gwobr Iris eto eleni, wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yng Nghaerdydd wythnos yma.

Mae’r digwyddiad blynyddol, sy’n dathlu’r diwydiant ffilmiau hoyw a lesbiaidd rhyngwladol, yn cael ei gynnal yn y brifddinas rhwng 12 ac 16 o Hydref, gyda’r brif seremoni wobrwyo yn digwydd yn Park Hotel ar Ddydd Sul 16 Hydref.

Mae’r Wobr Iris yn parhau i fod y wobr fwyaf yn y byd ar gyfer ffilmiau hoyw a lesbiaidd, gyda’r enillydd yn derbyn £30,000 i greu eu ffilm fer nesaf ym Mhrydain yn ogystal â chyllid a llu o gefnogaeth ac arweiniad gan Iris, ei noddwyr a’i chefnogwyr . Mae Gorilla yn falch iawn o fod wrth law unwaith eto eleni i gynnig arweiniad a chymorth ôl-gynhyrchu i’r enillydd fel rhan o’r wobr.

Uchafbwynt y seremoni wobrwyo eleni fydd ymddangosiad yr Arglwydd Glendonbrook fydd yn cyhoeddi’r 10fed enillydd o’r Wobr Iris.

Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl ac i brynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o’r digwyddiadau, ewch i wefan Gwobr Iris.