Mae Gorilla, prif gwmni ôl-gynhyrchu Cymru, wedi cryfhau ei ymrwymiad i gynaliadwyedd drwy ddod yn aelod cyswllt o raglen albert BAFTA yn ddiweddar.
Nod rhaglen albert BAFTA, a sefydlwyd yn 2011, yw dod â’r diwydiannau sgrin ynghyd i fynd i’r afael â’r effaith amgylcheddol, ac i ysbrydoli ffyrdd cynaliadwy o fyw.
Yn yr un modd â nifer o sectorau, mae gan y diwydiannau creadigol ôl troed carbon mawr, ac nid yw hyn wedi newid yn ystod y pandemig. Mae creu cynnwys cyfryngau yn aml yn gofyn am adnoddau helaeth – hyd yn oed ar gyfer y pethau symlaf fel teithio, bwyta, a defnyddio mwy nag un adeilad.
Targed Gorilla yw defnyddio 100% o ynni adnewyddadwy yn ei holl leoliadau. Rydym eisoes wedi llwyddo i gyrraedd y targed hwn yn ein gyfleuster ar Heol Eglwys Fair. Mae Gorilla wedi ennill ardystiad ISO 14001 hefyd ond fel y gwyddai Rich Moss, y Rheolwr Gyfarwyddwr, megis dechrau yw hyn:
“Mae’n ymddangos bod materion amgylcheddol wedi cael eu hanghofio i raddau yn ystod y pandemig, felly mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i wneud ein gorau i leihau ein hôl troed fel unigolion ac fel diwydiant.”
Mae Gorilla hefyd yn creu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ôl troed carbon y diwydiant. Gyda chymorth gan raglen Clwstwr De Cymru ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU, rydyn ni wedi newydd ddatgelu pecyn adnoddau golygu o bell newydd, sy’n caniatáu’r tîm i weithio lle bynnag maen nhw.