undijgdfjgdfjigdfGweinidog Swyddfa Cymru Alan Cairns yn Ymweld â Gorilla

Wales Officer Minister Alun Cairns Visits Gorilla

Roeddem yn falch o groesawu’r Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns i Gorilla yn ddiweddar fel rhan o’i daith o amgylch cwmnïau blaenllaw sy’n gweithredu yn y sector greadigol bywiog yng Nghymru.

Cafodd Mr Cairns, sydd yn gefnogwr brwd o’n diwydiannau creadigol ac yn rheolaidd yn siarad am eu pwysigrwydd fel catalydd ar gyfer twf economaidd Cymru, ei arwain o amgylch y stiwdio gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr Rich. Fe wnaeth Rich sôn wrtho am yr amrywiaeth o brosiectau rydym yn gweithio arno yma ac am y pwysigrwydd o gyfuno creadigrwydd ag arloesedd technolegol ym mhob agwedd o’n gwaith.

Fel cwmni Cymraeg balch, mae’n fraint i weld y rôl mae Gorilla yn ei chwarae yn natblygiad sector creadigol Cymru yn cael ei gydnabod.

Yn dilyn ei ymweliad, dywedodd Mr Cairns: “Rydym ni wedi ymrwymo i feithrin sector greadigol llewyrchus yma yng Nghymru. Ni ellir diystyru rôl y cwmnïau hyn sy’n ysgogi twf drwy greu swyddi a denu buddsoddiadau o du hwnt i Gymru”.

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn Ŵyl Mynydd Kendal

Gorilla heads to Kendal Mountain Festival

Mae rhai o dîm Gorilla yn anelu am y mynyddoedd penwythnos yma i fynychu Gŵyl Mynydd Kendal a’i Chystadleuaeth Ffilm Ryngwladol.

Yr ŵyl yw’r prif ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer selogion awyr agored yn y DU.  Mae ei Chystadleuaeth Ffilm Ryngwladol – sydd wedi cael ei galw gan rai yn ‘Oscars Ffilmiau awyr agored’ – yn derbyn ceisiadau gan gynyrchiadau o bob cwr o’r byd sydd am gystadlu i ennill un o 11 gwobr.

Mae dau gynhyrchiad a gafodd eu golygu yn Gorilla ar restr fer y gwobrau eleni – Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle gan Fflic TV ar gyfer S4C ac Hunters of the South Seas, Indus Films ar gyfer BBC2.

Cafodd Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle ei ddarlledu’n wreiddiol ar S4C yn gynharach yn y flwyddyn i gyd-fynd â dathliadau 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Yn y rhaglen mae’r dringwr byd-enwog Eric Jones yn rhannu atgofion ac hanesion ei fywyd gyda’r dringwr ifanc Ioan Doyle wrth iddynt fynd ar siwrnai fythgofiadwy ar hyd asgwrn cefn yr Andes.

Darlledwyd y gyfres dogfen Hunters of the South Seas gan Indus Films ar BBC Two yng Ngwanwyn 2015. Mae’n dilyn yr anturiaethwr Will Millard wrth iddo deithio o amgylch Y Triongl Cwrel yn y Cefnfor Tawel gan dreulio amser gyda chymunedau anghysbell sydd wedi addasu i fywyd môr fel unman arall ar y blaned.

Bydd y ddau gynhyrchiad yn cael eu tangos yn yr Ŵyl cyn y seremoni wobrwyo ar nos Sadwrn. Bydd Paul a Rhodri wrth law i gynrychioli Gorilla ar y noson – ac i fwynhau’r dathliadau beth bynnag fydd y canlyniad!

Pob lwc i bawb wnaeth weithio ar y ddau gynhyrchiad. Cadwch lygad ar ein cyfrif Twitter ar gyfer y diweddaraf o’r digwyddiad.

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn Dychwelyd fel Noddwr Allweddol Gwobrau BAFTA Cymru

Gorilla Returns as BAFTA Cymru Awards Key Event Sponsor

Rydym yn falch iawn i fod yn Noddwr Allweddol unwaith yn rhagor ar gyfer y 24ain Gwobrau Academi Brydeinig Cymru yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 27 Medi.

Bydd y seremoni eleni yn cael ei chyflwyno gan Huw Stephens a bydd y gwobrau yn cael eu dyfarnu ar draws 30 o gategorïau ar gyfer crefft a pherfformiad i ddathlu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu mewn Ffilm a Theledu yng Nghymru.

Mae Gorilla hefyd yn falch o noddi’r wobr unigol am Olygu a dyma’r enwebiadau eleni:

  • John Richards – Da Vinci’s Demons – Adjacent Productions/Phantom Four Films/FOX
  • Will Oswald – Doctor Who: Dark Water – BBC Wales / BBC One
  • John Richards – Jack to a King: The Swansea Story – YJB Films Ltd

Mae Noson Wobrwyo BAFTA Cymru bob amser yn ddathliad cofiadwy o un o’r diwydiannau mwyaf cyffrous a phwysig yng Nghymru.

Dymuna Gorilla pob lwc i bob un o’r enwebeion a rydym yn edrych ymlaen at ddathlu gyda chi ar y noson!

Gellir prynu tocynnau ar gyfer y seremoni i’r cyhoedd ac aelodau o’r diwydiant trwy wefan BAFTA Cymru.

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn ymuno â’r Digital Production Partnership (DPP)

Gorilla joins the Digital Production Partnership (DPP)

Mae Gorilla bellach yn aelod balch o’r Digital Production Partnership, sefydliad di-elw sy’n anelu at helpu’r diwydiant cyfryngau i wneud y mwyaf o’r manteision o gynhyrchu teledu yn ddigidol.

Rydym yn ymuno â grŵp o gyrff masnach, cwmnïau ac unigolion o bob rhan o’r diwydiant ar y rhestr aelodaeth. Hefyd wedi ymuno yn ddiweddar mae Sky, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Iwerddon, TG4 a’r darparwr gwasanaethau proffesiynol PwC UK.

Sefydlwyd y DPP ym 2010 fel cydfenter gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU. Ei nod yw helpu’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant wneud y gorau o botensial digidol wrth greu a rheoli cynnwys trwy ganolbwyntio ar feysydd fel cynhyrchu, storio digidol, safonau technegol a chydymffurfio.

Ar ddod yn aelod, dywed Rich Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla: “Mae Gorilla yn darparu rhaglenni ar draws y byd, ym mhob fformat a safon. Roeddwn yn awyddus iawn i fod yn rhan o DPP ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfrannu at ei weithdai a ffrydiau gwaith.

“Rydym eisoes wedi cael trafodaethau defnyddiol gyda’r DPP a gweithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant o amgylch ein profiadau ymarferol o lif gwaith AS-11 ac yn edrych ymlaen at fwy wrth i ni ddechrau edrych ar gyflenwi UHD”.

undijgdfjgdfjigdfGorilla’n Ennill Statws Ansawdd BBC WorldWide

Gorilla Gains BBC Worldwide Quality Status

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ymuno â grŵp ecsgliwsif o gyfleusterau teledu annibynnol sydd yn gallu cwblhau adroddiadau sicrwydd ansawdd (QAR) ar gyfer rhaglenni a chynnwys i BBC Worldwide.

Mae’n rhaid i unrhyw raglen neu DVD a gynhyrchwyd ar gyfer dosbarthu byd-eang gan BBC Worldwide fynd drwy broses wirio ansawdd llym. Gyda dros 53,000 awr o raglenni yn ei gatalog, mae BBC Worldwide yn dosbarthu i bob tiriogaeth fawr.

Fel gwerthwr QAR cymeradwy, rydym yn ymuno â rhestr elit o gwmnïau cyfleusterau ag awdurdodwyd i gynnal yr adolygiadau, sy’n cwmpasu’r elfennau technegol a chynnwys sy’n ofynnol ar gyfer dosbarthu rhyngwladol.

Dim ond tri cwmni cyfleusterau eraill y tu allan i Lundain sydd wedi’u hawdurdodi i wneud QAR ar gyfer BBC Worldwide a byddwn yn bennaf yn cefnogi cwmnïau cynhyrchu wedi’u lleoli yng Nghymru wrth iddynt baratoi cynnwys i’w gyflwyno i’r BBC.

Dywedodd Jo Gudgeon o BBC Worldwide: “Rydym wedi datblygu perthynas dda gyda Gorilla ar ymholiadau ôl-gynhyrchu ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn cymryd y cyfrifoldeb o wneud adroddiadau QAR BBC Worldwide ar amrywiaeth o brosiectau yng Nghaerdydd “.

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn ychwanegu ail swît graddio Baselight

Gorilla adds second Baselight Grading Suite

Newyddion cyffrous – rydym wedi ychwanegu ail swît graddio Baselight i’n cyfleuster ym Mae Caerdydd, gan gynnwys panel raddio Baselight Slate a plugin Avid Baselight o gwmni Filmlight.

Mae’r swît newydd yn eistedd ochr yn ochr â’n swît Baselight wreiddiol sydd wedi’i gyfarparu â Blackboard a monitor cyfeirio Dolby Professional.

Yn ôl ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau Paul Owen mae’r swît newydd yn cynnig y gorau o ddau fyd trwy adael technegwyr i ddefnyddio Baselight ochr yn ochr â Avid “Rydym yn gwybod bod ein cleientiaid yn hoffi defnyddio’r Baselight ac mae dod â’r system ochr yn ochr gydag ein seilwaith Avid, wedi creu hyblygrwydd ychwanegol.”

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn gosod Consolau Sain Avid S6 cyntaf yng Nghymru

Gorilla installs Wales’ first Avid S6 Audio Consoles

Yn dilyn ein symudiad diweddar i’n cartref newydd ym Mae Caerdydd rydym wedi uwchraddio ein cyfleusterau golygu a chymysgu sain i gynnwys dau consol Avid S6 newydd – y gyntaf o’i fath yng Nghymru – yn ogystal â’r caledwedd diweddaraf Pro Tools HDX a’r meddalwedd fersiwn 11.

Mae systemau cymysgu 16-pylwr S6 M10 a 32-pylwr S5 M40 yn ogystal â’r fersiynau diweddara o’r caledwedd Pro Tools HDX a’r meddalwedd fersiwn 11 wedi eu gosod gyda diolch i’n ffrindiau yn Scrub, arbenigwyr adran ôl-gynhyrchu HHV Communications. Fe wnaethon nhw hefyd ein cyflenwi gyda breichiau microffonau a monitor newydd Yellowtech m!ka. Mae’r rhain i gyd wedi eu gosod yn ein desgiau a gafodd eu creu yn arbennig i Gorilla gan yr arbenigwyr dodrefn technegol a stiwdio AKA Design.

Mae’r consolau S6 wedi ein galluogi i ehangu ein gwaith ac mae’r llwyfannau cymysgu newydd yn cynnig rheolaeth well wrth gymysgu. Mae Tom Logan, ein Huwch-olygydd Tros-sain yn egluro: “Mae’r gallu i gael ‘spill’ o’r ‘VCA spill groups’ ar arwyneb S6 yn nodwedd ffantastig. Mae’n wych gallu cael y pylwr o’ch blaen gan ei fod yn galluogi i chi neidio yn syth i draciau deialog i wneud newidiadau cyflym yn ystod cymysgu”.

Mae’r caledwedd Pro Tools HDX diweddara a’r meddalwedd fersiwn 11 wedi creu codiad dramatic mewn perfformiad a chyflymder: “Mae’r nodwedd ‘offline bounce’ ar Pro Tools 11 yn arbed llawer o amser yn paratoi’r cymysgiad terfynol. Mae’r system hefyd yn gyflym iawn yn delio gyda nifer fawr o ‘plug-ins’. Pan rydym yn defnyddio plug-in fel ‘Channel Strip’ ym mhob trac, does dim angen i ni boeni am arafu’r broses gan fod y caledwedd Pro Tools newydd a Mac Pro yn galluogi i rywun ddefnyddio cynifer o ‘plug-ins’ ac sydd eisiau.  Mae’ S6 yn rhoi’r rheolaeth o’r nodweddion hyn i gyd nol yn ein dwylo ni”.

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn symud i gartref newydd

Gloworks

Rydym yn falch o gyhoeddi bod drysau ein cartref newydd nawr ar agor. Mae’r lleoliad newydd yn rhan o ardal diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd.

Rydym wedi’n gwasgaru dros dri llawr a dros 12,000 troedfedd sgwâr yn yr adeilad newydd, GloWorks, ac yn y broses rydym wedi gallu cael ein holl adrannau gweithredol a thechnegol o dan yr un to. Mae hyn golygu ein bod wedi gallu gwella ein heffeithiolrwydd a’n gallu i gyfathrebu rhwng adrannau, yn ogystal â datblygu ein gwaith i gleientiaid drwy ehangu oriau gwaith y cwmni a’n gwasanaethau technegol.

Mae’n gartref newydd yn cynnwys llawer o dechnegau newydd fel 40 stiwdio Avid, gweinydd trwydded gyntaf y DU, storfa o bron i hanner petabyte, stiwdio graddio Baselight a stiwdio dybio Protools 5.1 gyda ADR/VO. Mae gennym hefyd QC pwrpasol, system archifo a throsglwyddo ffeiliau, sydd wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer gofynion trosglwyddo ffeiliau darlledu.

Dyweda Richard Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla: “Mae symud i’n safle newydd yn cynnig hyblygrwydd ac yn rhoi’r cyfle i ni ddatblygu i allu ateb gofynion cynyddol a thynn ein cleientiaid. Mae cyfuno a chryfhau ein busnesau a chreu cyfleuster newydd sy’n arbennig ar gyfer y diwydiant ôl-gynhyrchu heddiw wedi bod yn sialens hyfryd ac yn gyfle i wneud newidiadau mawr.”

Dyweda Paul Owen, ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau: “Rydym wedi gallu gwella ein lefel o wasanaethau i’n cleientiaid yn aruthrol, diolch i’n technoleg a threfn staffio newydd. Mae cyfuno ein hadrannau gweithredol a thechnegol o dan yr un to wedi creu ardal gysurus i’n cleientiaid ac wedi newid ein gweithredon dyddiol am y gorau. Diolch i’n tîm gweithgar a chyson, rydym yn parhau i gynnig y gwasanaethau ôl-gynhyrchu gorau mewn amgylchedd braf sydd wedi ei gynllunio gyda’n cleientiaid mewn cof.”

undijgdfjgdfjigdfGorilla yn ymuno gyda dathliadau Ludus yn y Gwobrau Darlledu Digidol

Gorilla joins Ludus celebrations at the Broadcast Digital Awards

Roeddem wrth ein bodd yn cael dathlu llwyddiant Ludus yng Ngwobrau Broadcast Digital eleni wrth iddi gipio gwobr Cynnwys Digidol Gorau i Blant. Roeddem ni a Bait Studio wedi cyd-weithio ar y y rhaglen newydd CBBC i Cube Interactive a Boom Kids.

Roedd safon uchel o fewn y categori wrth i Ludus –  rhaglen gêm ryngweithiol ffuglen wyddonol (Sci-fi),  gystadlu gyda rhaglenni poblogaidd fel CBBC Wizards Vs Aliens a Dixi i ennill y wobr.

Ludus oedd y rhaglen CBBC cyntaf i gynnwys ail sgrin i chwarae ar yr un pryd a’r sioe. Cafodd y sioe ei addasu o’r rhaglen S4C ‘Y Lifft’ lle mae chwaraewyr yn cystadlu i achub eu teuluoedd drwy guro’r dihiryn gofod i ennill tocyn i gyrraedd gartref. Mae’r sioe yn cynnwys ap iOS a Android sy’n galluogi gwylwyr gartref i chwarae ar yr un pryd a chystadleuwyr y sioe.

Bu Gorilla yno bob cam o’r broses gynhyrchu gan gynnig cyfleusterau cynhyrchu ar leoliad a gwasanaethau ôl-gynhyrchu tra fod  Bait Studio wedi darparu VFX a Graffeg Symudol.

Roedd Ludus yn brosiect arloesol yn nhermau gwaith cynhyrchu teledu rhyngweithiol felly rydym yn hapus iawn i weld y rhaglen yn ennill cydnabyddiaeth haeddiannol gan y diwydiant – da iawn i bawb gyfrannodd at ei llwyddiant!

undijgdfjgdfjigdfDylan Thomas – A Poet in New York

A Poet In New York

Mae Gorilla a Bait Studio yn hynod o falch o fod yn rhan o un o’r rhaglenni arbennig ym, sef y ddrama nodwedd deledu, A Poet in New York.

Wedi ei ysgrifennu gan Andrew Davies ac yn cynnwys perfformiad gwefreiddiol gan Tom Hollander fel Dylan Thomas, mae’r ddrama yn archwilio sut bu farw’r awdur cythryblus yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd 1953. Mae’r ffilm wedi ei gosod yn Efrog Newydd ond cafodd ei ffilmio yn gyfan gwbl yng Nghaerdydd a Thalacharn. Ein tîm yn Bait Studio gafodd y dasg o ddefnyddio VFX i greu golwg a theimlad Efrog Newydd y 1950au cyn i Emyr Jenkins o Gorilla orffen a graddio eu hymdrechion nhw a gweddill y ffilm gan ddefnyddio Baselight.

Cafodd A Poet in New York ei ddangosiad cyntaf ar BBC Cymru yn ddiweddar ond mae’n cael ei darlledu ar draws y DU ar BBC2 ar nos Sul 18 Mai am 21.00. Gwyliwch y trelar isod am flas o’r ffilm bwerus hon.