News Newyddion

Gorilla yn ymuno â’r Digital Production Partnership (DPP)

Mae Gorilla bellach yn aelod balch o’r Digital Production Partnership, sefydliad di-elw sy’n anelu at helpu’r diwydiant cyfryngau i wneud y mwyaf o’r manteision o gynhyrchu teledu yn ddigidol.

Rydym yn ymuno â grŵp o gyrff masnach, cwmnïau ac unigolion o bob rhan o’r diwydiant ar y rhestr aelodaeth. Hefyd wedi ymuno yn ddiweddar mae Sky, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Iwerddon, TG4 a’r darparwr gwasanaethau proffesiynol PwC UK.

Sefydlwyd y DPP ym 2010 fel cydfenter gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU. Ei nod yw helpu’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant wneud y gorau o botensial digidol wrth greu a rheoli cynnwys trwy ganolbwyntio ar feysydd fel cynhyrchu, storio digidol, safonau technegol a chydymffurfio.

Ar ddod yn aelod, dywed Rich Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla: “Mae Gorilla yn darparu rhaglenni ar draws y byd, ym mhob fformat a safon. Roeddwn yn awyddus iawn i fod yn rhan o DPP ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfrannu at ei weithdai a ffrydiau gwaith.

“Rydym eisoes wedi cael trafodaethau defnyddiol gyda’r DPP a gweithwyr proffesiynol eraill yn y diwydiant o amgylch ein profiadau ymarferol o lif gwaith AS-11 ac yn edrych ymlaen at fwy wrth i ni ddechrau edrych ar gyflenwi UHD”.