News Newyddion

Gorilla yn gosod Consolau Sain Avid S6 cyntaf yng Nghymru

Yn dilyn ein symudiad diweddar i’n cartref newydd ym Mae Caerdydd rydym wedi uwchraddio ein cyfleusterau golygu a chymysgu sain i gynnwys dau consol Avid S6 newydd – y gyntaf o’i fath yng Nghymru – yn ogystal â’r caledwedd diweddaraf Pro Tools HDX a’r meddalwedd fersiwn 11.

Mae systemau cymysgu 16-pylwr S6 M10 a 32-pylwr S5 M40 yn ogystal â’r fersiynau diweddara o’r caledwedd Pro Tools HDX a’r meddalwedd fersiwn 11 wedi eu gosod gyda diolch i’n ffrindiau yn Scrub, arbenigwyr adran ôl-gynhyrchu HHV Communications. Fe wnaethon nhw hefyd ein cyflenwi gyda breichiau microffonau a monitor newydd Yellowtech m!ka. Mae’r rhain i gyd wedi eu gosod yn ein desgiau a gafodd eu creu yn arbennig i Gorilla gan yr arbenigwyr dodrefn technegol a stiwdio AKA Design.

Mae’r consolau S6 wedi ein galluogi i ehangu ein gwaith ac mae’r llwyfannau cymysgu newydd yn cynnig rheolaeth well wrth gymysgu. Mae Tom Logan, ein Huwch-olygydd Tros-sain yn egluro: “Mae’r gallu i gael ‘spill’ o’r ‘VCA spill groups’ ar arwyneb S6 yn nodwedd ffantastig. Mae’n wych gallu cael y pylwr o’ch blaen gan ei fod yn galluogi i chi neidio yn syth i draciau deialog i wneud newidiadau cyflym yn ystod cymysgu”.

Mae’r caledwedd Pro Tools HDX diweddara a’r meddalwedd fersiwn 11 wedi creu codiad dramatic mewn perfformiad a chyflymder: “Mae’r nodwedd ‘offline bounce’ ar Pro Tools 11 yn arbed llawer o amser yn paratoi’r cymysgiad terfynol. Mae’r system hefyd yn gyflym iawn yn delio gyda nifer fawr o ‘plug-ins’. Pan rydym yn defnyddio plug-in fel ‘Channel Strip’ ym mhob trac, does dim angen i ni boeni am arafu’r broses gan fod y caledwedd Pro Tools newydd a Mac Pro yn galluogi i rywun ddefnyddio cynifer o ‘plug-ins’ ac sydd eisiau.  Mae’ S6 yn rhoi’r rheolaeth o’r nodweddion hyn i gyd nol yn ein dwylo ni”.