News Newyddion

Gorilla yn symud i gartref newydd

Rydym yn falch o gyhoeddi bod drysau ein cartref newydd nawr ar agor. Mae’r lleoliad newydd yn rhan o ardal diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd.

Rydym wedi’n gwasgaru dros dri llawr a dros 12,000 troedfedd sgwâr yn yr adeilad newydd, GloWorks, ac yn y broses rydym wedi gallu cael ein holl adrannau gweithredol a thechnegol o dan yr un to. Mae hyn golygu ein bod wedi gallu gwella ein heffeithiolrwydd a’n gallu i gyfathrebu rhwng adrannau, yn ogystal â datblygu ein gwaith i gleientiaid drwy ehangu oriau gwaith y cwmni a’n gwasanaethau technegol.

Mae’n gartref newydd yn cynnwys llawer o dechnegau newydd fel 40 stiwdio Avid, gweinydd trwydded gyntaf y DU, storfa o bron i hanner petabyte, stiwdio graddio Baselight a stiwdio dybio Protools 5.1 gyda ADR/VO. Mae gennym hefyd QC pwrpasol, system archifo a throsglwyddo ffeiliau, sydd wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer gofynion trosglwyddo ffeiliau darlledu.

Dyweda Richard Moss, Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla: “Mae symud i’n safle newydd yn cynnig hyblygrwydd ac yn rhoi’r cyfle i ni ddatblygu i allu ateb gofynion cynyddol a thynn ein cleientiaid. Mae cyfuno a chryfhau ein busnesau a chreu cyfleuster newydd sy’n arbennig ar gyfer y diwydiant ôl-gynhyrchu heddiw wedi bod yn sialens hyfryd ac yn gyfle i wneud newidiadau mawr.”

Dyweda Paul Owen, ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau: “Rydym wedi gallu gwella ein lefel o wasanaethau i’n cleientiaid yn aruthrol, diolch i’n technoleg a threfn staffio newydd. Mae cyfuno ein hadrannau gweithredol a thechnegol o dan yr un to wedi creu ardal gysurus i’n cleientiaid ac wedi newid ein gweithredon dyddiol am y gorau. Diolch i’n tîm gweithgar a chyson, rydym yn parhau i gynnig y gwasanaethau ôl-gynhyrchu gorau mewn amgylchedd braf sydd wedi ei gynllunio gyda’n cleientiaid mewn cof.”