News Newyddion

Gorilla yn ymuno gyda dathliadau Ludus yn y Gwobrau Darlledu Digidol

Roeddem wrth ein bodd yn cael dathlu llwyddiant Ludus yng Ngwobrau Broadcast Digital eleni wrth iddi gipio gwobr Cynnwys Digidol Gorau i Blant. Roeddem ni a Bait Studio wedi cyd-weithio ar y y rhaglen newydd CBBC i Cube Interactive a Boom Kids.

Roedd safon uchel o fewn y categori wrth i Ludus –  rhaglen gêm ryngweithiol ffuglen wyddonol (Sci-fi),  gystadlu gyda rhaglenni poblogaidd fel CBBC Wizards Vs Aliens a Dixi i ennill y wobr.

Ludus oedd y rhaglen CBBC cyntaf i gynnwys ail sgrin i chwarae ar yr un pryd a’r sioe. Cafodd y sioe ei addasu o’r rhaglen S4C ‘Y Lifft’ lle mae chwaraewyr yn cystadlu i achub eu teuluoedd drwy guro’r dihiryn gofod i ennill tocyn i gyrraedd gartref. Mae’r sioe yn cynnwys ap iOS a Android sy’n galluogi gwylwyr gartref i chwarae ar yr un pryd a chystadleuwyr y sioe.

Bu Gorilla yno bob cam o’r broses gynhyrchu gan gynnig cyfleusterau cynhyrchu ar leoliad a gwasanaethau ôl-gynhyrchu tra fod  Bait Studio wedi darparu VFX a Graffeg Symudol.

Roedd Ludus yn brosiect arloesol yn nhermau gwaith cynhyrchu teledu rhyngweithiol felly rydym yn hapus iawn i weld y rhaglen yn ennill cydnabyddiaeth haeddiannol gan y diwydiant – da iawn i bawb gyfrannodd at ei llwyddiant!