News Newyddion

The Doctors Revisited – Cyfres i’r UDA

Wrth i ben-blwydd Dr Who yn 50 agosau mae cyfres arbennig a wnaed i ddathlu hanner canrif o’r Doctor, a gynhyrchwyd gan Midnight Oil Productions o Gaerdydd, yn cael ei ddangos ar hyn o bryd ar BBC America drwy BBC Worldwide.

Darlledir The Doctors Revisited yn fisol ac mae pob rhaglen yn cynnwys hanes un o’r un ar ddeg Doctor. Roeddem yn falch iawn o’r gwahoddiad i ddarparu ôl-gynhyrchu ar y gyfres – prosiect hynod bleserus ar gyfer y llu o gefnogwyr y Doctor o fewn y teulu Gorilla.

Gan ei fod yn brosiect ar gyfer yr Unol Daleithiau roeddem yn medru cynnig darpariaeth ffeil yn uniongyrchol i America trwy ein cyswllt Aspira.

Dyma’r trêl ar gyfer y rhifyn diweddaraf am un o’r Doctoriaid mwyaf poblogaidd – Tom Baker.