News Newyddion

Gorilla yn Noddwr Allweddol Gwobrau BAFTA Cymru

Rydym yn gyffrous o gyhoeddi y bydd Gorilla yn noddi Gwobrau Academi Brydeinig Cymru eleni gan weithio unwaith eto ochr yn ochr â phrif noddwr y digwyddiad, NEP Cymru. Dyma’r 22ain flynedd yn olynol i’r Gwobrau a bydd y seremoni eleni yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ar ddydd Sul, Medi’r 29ain a bydd yn cael ei gyflwyno gan y cyflwynydd teledu Matt Johnson a’r cyflwynydd newyddion Sian Lloyd.

Mae 27 o gategorïau ar gyfer rhaglenni, crefft a pherfformiad i’w ddyfarnu eleni i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu mewn Ffilm a Theledu yng Nghymru yn y cyfnod rhwng Ionawr 1af  a Mawrth 31ain 2013.

Mae Gorilla hefyd yn noddi’r wobr am y Golygu Gorau a dyma’r enwebiadau eleni:
Doctor Who – The Snowman – William Oswald
Stella – Sara Parry Jones
The Story of Wales – John Gillanders

Mae tocynnau ar werth i aelodau BAFTA am £60, Diwydiant (Ddim yn aelod) £80 ac yn cynnwys Siampên Tattinger a pharti wedi’r seremoni. Mae tocynnau ar gael i’r cyhoedd hefyd (seremoni’n unig) am £ 10. Gellir eu prynu oddi wrth y Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru  – Ffôn: 029 2063 6464 neu ar-lein yn www.wmc.org.uk