News Newyddion

Dathliadau Penblwydd 15eg GT yn Silverstone – y Fideo

Roedd Gorilla yn hynod o falch o fod yn rhan o’r dathliadau yn Silverstone yn ddiweddar i ddathlu 15 mlynedd o GT pryd y cafodd Gran Turismo 6 ei ddadorchuddio ac GT Academy 2103 ei gyhoeddi hefyd.

Mae’r Academi GT diweddaraf sy’n dilyn hynt a helynt y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr gemau sydd a’u bryd ar droi’n raswyr proffesiynol yn dechrau ffilmio ym mis Gorffennaf  –  bydd yn cael ei gynhyrchu gan Boomerang fydd yn cyd-weithio gyda Nissan a Sony i ITV4. Mae Gorilla bob amser wedi mwynhau cefnogi Boomerang ar brosiect Academi GT ac wedi ôl-gynhyrchu’r cyfresi diwethaf.

Rydym yn hapus bod ein cysylltiad gyda’r holl bartneriaid GT wedi ymestyn i ddarparu ôl-gynhyrchu ar gyfer y fideos chwaraewyd fel rhan o’r dathliadau pen-blwydd diweddar lle ymddangosodd crëwr y gêm chwedlonol Kazunori  Yamauchi y fersiwn ddiweddaraf – Gran Turismo 6.

Fe fuom hefyd yn golygu deunydd gafodd eu ffilmio o’r diwrnod ar gyfer Nismo TV.