The Aberfan Young Wives’ Club
Dogfen wreiddiol sy’n adrodd hanes trychineb Aberfan trwy lygaid saith menyw sy’n rhan o Glwb Gwragedd Ifanc Aberfan. Maent yn edrych ar sut mae ysbryd Aberfan wedi parhau ers y diwrnod trasig ar 21 Hydref 1966 pan gafodd 144 o bobol, gan gynnwys 116 o blant o Ysgol Gynradd Pantglas, eu lladd yn dilyn tirlithriad yn y pentref glofaol.
Wedi’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr adnabyddus Marc Evans, mae’r rhaglen yn cynnwys archif o hen ffilmiau o’r trychineb a’r digwyddiadau dilynol. Mae hefyd yn cynnwys cerddoriaeth arbennig a gyfansoddwyd gan James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers.
Mae’r ddogfen yn rhan o gyfres a gynhyrchwyd gan ITV i nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan fis Hydref 2016.
Fe wnaeth Gorilla ddybio, cwblhau’r gwaith graddio ar Baselight a gwneud y golygu ar-lein ar y rhaglen.