Projects Prosiectau

Aberfan: Cantata Memoria

Cyngerdd arbennig o Ganolfan Mileniwm Cymru i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan, mae’r gwaith trawiadol a theimladwy yma yn disgrifio’r trychineb a’i effaith ar y gymuned ond hefyd yn edrych tua’r dyfodol yn obeithiol.

Mae’n cynnwys gwaith comisiwn newydd gan S4C, Cantata Memoria, wedi ei gyfansoddi gan Syr Karl Jenkins a’r Prifardd Mererid Hopwood yn ogystal â pherfformiadau gan y bas-bariton Bryn Terfel, y soprano Elin Manahan Thomas, y delynores Catrin Finch, yr unawdydd ewffoniwm David Childs a’r feiolinydd anhygoel o Dde Corea, Joo Yeon Sir. Darlledwyd y cyngerdd ar S4C.

Defnyddiodd Gorilla dechnoleg Quadrus i recordio’r perfformiad ar nifer o sianeli ar gyfer y darllediad.