Pencampwriaethau Nofio Ewropeaidd a Phencampwriaethau Athletau Ewropeaidd IPC
Roedd ein lori OB draw yn Funchal, Portiwgal a Grosseto, Yr Eidal i gefnogi Channel 4 gyda’u darllediadau o’r ddau ddigwyddiad mawr yma yn y calendr chwaraeon Paralympaidd. Wnaethom recordio a golygu’r cynnwys yn y lori, cyn ei anfon draw at Channel 4 trwy uplink lloeren.