News Newyddion

Llwyddiant yng Ngwobrau Academi Brydeinig Cymru

Yn noson wobrwyo Academi Brydeinig Cymru eleni roedd Gorilla yn falch iawn o weld cynifer o’r cynyrchiadau mae wedi cefnogi drwy gydol y flwyddyn yn cael llwyddiant – gan gynnwys cwmni graffeg Gorilla – Bait Studio. Yn ogystal a bod yn un o brif noddwyr y digwyddiad roedd hi’n fraint cael bod yn gysylltiedig â 10 gwobr fuddugol ar y noson ar gyfer cynyrchiadau mor amrywiol â’r ddrama Stella ar Sky i’r ffilm ffuglen wyddonol annibynnol The Machine, yn ogystal â nifer o raglenni dogfen rymus ar gyfer y BBC ac S4C.

Aeth Rheolwr Gyfarwyddwr Bait Studio, John Rennie, i fyny i’r llwyfan i dderbyn y wobr am Effeithiau Gweledol a Graffeg ar gyfer gwaith Cloth Cat Animations i’r gyfres blant Bla Bla Blewog. Mae’r cwmni yn rhan o grŵp Bait Studio a Gorilla.

Y cynyrchiadau eraill gefnogwyd gan Gorilla a fu’n llwyddiannus oedd:

Gwobr Arbennig ar gyfer Ffilm – Y Peiriant
Drama Deledu – Stella
Cyfres Ffeithiol – Awduron Great Cymru
Dogfen Sengl – Gerallt
Rhaglen Chwaraeon a Darlledu  Allanol – Y Sioe/12
Golygu – Stella
Cyfarwyddwr Ffeithiol / Fy Chwaer a Fi – Mei Wiliams
Ffotograffiaeth Ffeithiol – Catherine a Kirstie Beyond Words – Mei Williams
Ffotograffiaeth a Goleuo – Alys

Roedd y noson yn llwyddiant mawr ac roedd yn wych gweld cymaint o’n diwydiant yn dod at ei gilydd i ddathlu’r gorau mewn teledu a ffilm yng Nghymru.