News Newyddion

Griff Rhys Jones Yn Derbyn Gwobr Arbennig Am Raglen Ddogfen

Rydym yn falch iawn fod Griff Rhys Jones wedi derbyn gwobr arbennig am ei raglen ddogfen BBC ‘Burma, my father and the Forgotten Army’.

Mae’r Ghana UK Based Achievement Awards (GUBA) wedi anrhydeddu Griff gyda’r wobr am godi ymwybyddiaeth o stori cyn-filwyr o Ghana a’u rol allweddol yn yr ail ryfel byd.  Reodd y ddogfen am dad Griff, a’i gyfnod fel meddyg yn gwasanaethu yng Nghatrawd Arfordir Aur Byddin Ffin Gorllewin Affrica, wedi ei chynhyrchu gan Modern TV a’i golygu gan Gorilla. Cafodd ei darlledu ar BBC Two yn gynharach yr haf hwn .

Derbyniodd Griff y wobr mewn cyflwyniad arbennig yn Hen Goleg Brenhinol y Llynges yn Greenwich yn Llundain ym mhresenoldeb yr Uwch Gomisiynydd Prydain i Ghana , ei deulu a gwesteion eraill.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Griff Rhys Jones :
“Mae’n fraint i dderbyn y wobr hon, ond nid i mi y mae. Mae i’r cannoedd o filoedd a fu’n gwasanaethu yn Burma, yn ddu a gwyn, ac i’r holl bobl sydd wedi cymryd rhan wrth wneud y ffilm hon. Yr unig beth wnes i oedd dilyn cofnod rhyfel fy nhad a datgelu rhai storïau anhygoel . Ysgrifennodd ffrind ataf y diwrnod o’r blaen i ddweud ei bod yn ” teimlo’n wylaidd ” gan gyn-filwyr Ghana. Dylem i gyd deimlo felly.”