News Newyddion

Gwobrau Talent Ifanc Broadcast TECH, Enwebiadau i Aelodau Bait

Rydym yn falch o gyhoeddi bod dau aelod o’n tîm Bait Studio – Giuliana Marenghi a Jay Murray – wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau ar gyfer talent ifanc – Broadcast TECH Young Talent Awards eleni.

Mae’r gwobrau yn cydnabod unigolion eithriadol o dan 30 sy’n gweithio mewn maes technoleg ac ôl-gynhyrchu. Mae Giulianna a Jay wedi cael eu henwebu ar gyfer y categori VFX. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn derbyniad arbennig ar ddydd Mawrth, Tachwedd 26 yn yr Hospital Club yn Llundain.

Daeth Giuliana i Bait Studio ar ôl gweithio yn flaenorol ar gynyrchiadau Abadas a Rastamouse. Yn ei rôl fel Cydlynydd Cynhyrchu yn Bait, mae Giuliana yn gweithio ar draws nifer fawr o gynyrchiadau a weithiau yn cyd-lynu mwy na 30 o brosiectau byw ar unwaith – rhywbeth y mae’n ei wneud yn llwyddiannus gyda digon o hiwmor, sgiliau diplomyddol a ffocws pendant ar derfynau amser.

Ymunodd Jay â Bait tra ar leoliad gwaith o’i gwrs Prifysgol. Mae Jay wedi gwneud argraff fawr ar ein tîm VFX drwy ei dalent, ei allu i ddatrys problemau yn naturiol, ei ymroddiad a’i sylw i fanylion. Mae ei waith ar Nuke ac After Effects o safon uchel ac mae’n cymryd balchder gwirioneddol yn y gwaith mae’n ei ddarparu.

Rydym yn dymuno pob lwc i’r ddau yn noson gwobrwyo.