News Newyddion

Bait Studio yn Ehangu i Gynnig Animeiddio a Rhyngweithiol

Mae ein cwmni VFX a Graffeg Symudol Bait Studio wedi ehangu i gynnwys dau gwmni newydd a fydd yn cynnig animeiddio yn ogystal â gwasanaethau rhyngweithiol a chyhoeddi.

O dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr, Jon Rennie, bydd Bait Studio yn parhau i fod yn rhiant-gwmni tra bod Cloth Cat Animation yn dod yn fraich animeiddio a Thud Media yn fraich ryngweithiol a chyhoeddi.

Yn ôl Jon, gwelodd y cwmni’r galw cynyddol am ryngweithiol fel cyfle i ddatblygu’r agwedd hon o’i wasanaethau ochr yn ochr â’i gwaith animeiddio, VFX a Graffeg Symudol.

Fel rhan o’r ehangu, mae’r cwmni wedi cyflogi 14 aelod o staff newydd ar gyfer eu prosiectau animeiddio newydd. Mae’r rhain yn cynnwys Ben Cawthorne, fel Cyfarwyddwr Animeiddio a Rhyngweithiol, Adam Bailey fel Pennaeth Datblygu Animeiddio a Shane Skuse fel Pennaeth Datblygu Rhyngweithiol.