News Newyddion

Gwaith Gorilla ar Hysbyseb Deledu Newydd Visit Wales

Mae Gorilla yn falch o fod wedi chwarae rhan allweddol yn ymgyrch farchnata newydd Visit Wales drwy ddarparu gwasanaethau ôl-gynhyrchu ar eu hysbyseb deledu newydd.

Mae’r hysbyseb wedi ei gynllunio i ddangos y gorau o Gymru drwy ddangos drama chwaraeon fel syrffio barcud a beicio mynydd ochr yn ochr â’r myth a mawredd o rhai o adeiladau hanesyddol ac enwoca’r wlad.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla, Rich Moss :

“Roedd hwn yn brosiect gwych i fedru cydweithio arno. Mae cyfoeth o sgiliau a phrofiad arbenigol ar draws y diwydiannau creadigol yma yng Nghymru. Mae cael y cyfle i ddod at ei gilydd o bob disgyblaeth o fewn y sector ar brosiect sy’n arddangos harddwch y wlad yr ydym i gyd yn byw ac yn gweithio ynddi wedi bod yn wych . ”