Gorilla yn ennill gwaith ôl-gynhyrchu ar gyfres One Born Every Minute
Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi bod Gorilla wedi ennill cytundeb i gwblhau gwaith ôl-gynhyrchu ar gyfres nesaf rhaglen ffeithiol rig-sengl Channel 4 One Born Every Minute.
Bydd y gyfres 10x1awr poblogaidd yn cael ei ffilmio yn uned famolaeth Lerpwl cyn cael ei ôl-gynhyrchu yn ein pencadlys yng Nghaerdydd.
Mae’n foment balch iawn i ni fel cwmni gan taw hwn fydd ein prosiect rig-sengl cyntaf a taw ni yw’r cwmni ôl-gynhyrchu Cymraeg cyntaf i weithio ar brosiect fel hyn.
Dywedodd Rich Moss, ein Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym yn hynod o falch o gael gweithio gyda Dragonfly ar y gyfres boblogaidd yma. Mae rhaglennu rig-sengl yn faes anodd i dorri i mewn iddo felly rydym yn croesawu’r hyder a ddangoswyd gan Dragonfly a Channel 4 wrth ddewis cwmni Cymreig fel ni”.
Daw’r newyddion da yma ar ôl derbyn cadarnhad yn ddiweddar y byddwn yn ôl-gynhyrchu’r rhaglen Decline and Fall ar gyfer Tiger Aspect ac ennill ar ôl ennill cytundeb marchnata BBC Promos sydd yn golygu taw Gorilla yw’r unig ddarparwr gwasanaethau ôl-gynhyrchu allanol i’r BBC Wales Creative Services yn ystod y ddegawd ddiwethaf.