News Newyddion

Gorilla yn helpu i goffáu 50 mlynedd ers trychineb Aberfan

Ym mis Hydref 2016 bydd pobl ar draws Cymru yn nodi hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan a welodd 116 o blant a 28 o oedolion cael eu lladd yn dilyn tirlithriad yn y pentref glofaol ar Hydref 21, 1966. Cafodd y digwyddiad trasig yma effaith ddinistriol ar y gymuned leol sydd yn parhau i gael ei heffeithio heddiw.

Mae nifer o raglenni teledu wedi cael eu comisiynu i goffáu 50 mlynedd ers y trychineb – mae Gorilla wedi cymryd rhan mewn tri o’r rhain:

Cantata Memoria – Rondo Media ar gyfer S4C

Cyngerdd arbennig o Ganolfan Mileniwm Cymru i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan yn cynnwys perfformiadau gan y bas-bariton Bryn Terfel, y soprano Elin Manahan Thomas a’r delynores Catrin Finch yn ogystal â gwaith newydd gan y cyfansoddwr adnabyddus Syr Karl Jenkins.

Defnyddiodd Gorilla dechnoleg Quadrus i recordio’r perfformiad dros nifer o sianeli ar gyfer ei ddarlledu ar S4C.

The Aberfan Young Wives’ Club – Shiver Cymru (ITV Factual/ITV Cymru Wales) ar gyfer ITV

Dogfen wreiddiol sy’n adrodd hanes trychineb Aberfan trwy lygaid saith menyw sy’n rhan o Glwb Gwragedd Ifanc Aberfan. Wedi’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr adnabyddus Marc Evans, mae’r rhaglen yn cynnwys archif o hen ffilmiau o’r trychineb a’r digwyddiadau oedd i ddilyn gyda cherddoriaeth arbennig a gyfansoddwyd gan James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers.

Fe wnaeth Gorilla weithio ar y dybio, cwblhau’r gwaith graddio ar Baselight a’r golygu ar-lein ar y rhaglen.

Surviving Aberfan – Testimony Films ar gyfer BBC 1 Wales

Dogfen yn cyfuno ffilm o’r archif gyda phobl heddiw, a phob un yn dweud eu straeon am y golled drasig, goroesi gwyrthiol ac achubiaeth arwrol. Siarada rhai o’r goroeswyr am y tro cyntaf am ddiwrnod mwyaf dirdynnol eu bywydau, a sut y maent wedi byw gyda’r atgof am hanner canrif. Portread agos a theimladwy o’r gymuned wnaeth ddioddef y trychineb torcalonnus, ac eto rywsut yn dod o hyd i’r nerth i barhau gyda gobaith ac urddas.

Aberfan: The Day our Lives Changed – ITV Cymru Wales

Dogfen awr o hyd sy’n adrodd hanes Phillip Thomas, un o’r goroeswyr a anafwyd gwaethaf o drychineb Aberfan, yn cofio’r digwyddiadau 21 Hydref 1966 pan fu’n ddisgybl 10 oed yn Ysgol Gynradd Pantglas. Yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai a gollodd anwyliaid a’r rhai o’r rheiny a fu’n ymwneud a’r gwaith achub, mae’r rhaglen yn cynnig persbectif emosiynol ar effaith y trychineb ar y gymuned leol a chryfder yr ysbryd dynol.

Fe wnaeth Gorilla ddybio’r rhaglen.

Fel cwmni Cymreig balch, rydym yn falch o chwarae rhan yn y cynyrchiadau pwysig yma, gyda phob un ohonynt yn cynnig safbwynt gwahanol ar y digwyddiad trasig yn hanes Cymru.