Gorilla yn Ŵyl Mynydd Kendal
Mae rhai o dîm Gorilla yn anelu am y mynyddoedd penwythnos yma i fynychu Gŵyl Mynydd Kendal a’i Chystadleuaeth Ffilm Ryngwladol.
Yr ŵyl yw’r prif ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer selogion awyr agored yn y DU. Mae ei Chystadleuaeth Ffilm Ryngwladol – sydd wedi cael ei galw gan rai yn ‘Oscars Ffilmiau awyr agored’ – yn derbyn ceisiadau gan gynyrchiadau o bob cwr o’r byd sydd am gystadlu i ennill un o 11 gwobr.
Mae dau gynhyrchiad a gafodd eu golygu yn Gorilla ar restr fer y gwobrau eleni – Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle gan Fflic TV ar gyfer S4C ac Hunters of the South Seas, Indus Films ar gyfer BBC2.
Cafodd Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle ei ddarlledu’n wreiddiol ar S4C yn gynharach yn y flwyddyn i gyd-fynd â dathliadau 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Yn y rhaglen mae’r dringwr byd-enwog Eric Jones yn rhannu atgofion ac hanesion ei fywyd gyda’r dringwr ifanc Ioan Doyle wrth iddynt fynd ar siwrnai fythgofiadwy ar hyd asgwrn cefn yr Andes.
Darlledwyd y gyfres dogfen Hunters of the South Seas gan Indus Films ar BBC Two yng Ngwanwyn 2015. Mae’n dilyn yr anturiaethwr Will Millard wrth iddo deithio o amgylch Y Triongl Cwrel yn y Cefnfor Tawel gan dreulio amser gyda chymunedau anghysbell sydd wedi addasu i fywyd môr fel unman arall ar y blaned.
Bydd y ddau gynhyrchiad yn cael eu tangos yn yr Ŵyl cyn y seremoni wobrwyo ar nos Sadwrn. Bydd Paul a Rhodri wrth law i gynrychioli Gorilla ar y noson – ac i fwynhau’r dathliadau beth bynnag fydd y canlyniad!
Pob lwc i bawb wnaeth weithio ar y ddau gynhyrchiad. Cadwch lygad ar ein cyfrif Twitter ar gyfer y diweddaraf o’r digwyddiad.