Projects Prosiectau

Prosiect Z

Realiti rhan-strwythuredig, rhan sioe wedi ei osod mewn byd apocalyptig dychmygol lle mae Zombies yn crwydro’r ddaear. Mae arbrawf trychinebus gan gwmni ffuglennol Itopia wedi arwain i bobl drawsnewid mewn i greaduriaid tebyg i Zombie a elwir yn ‘Zeds.’

Comisiynwyd y sioe yn wreiddiol gan S4C i’w ddarlledu yn yr iaith Gymraeg a chasglodd wobr BAFTA Plant am Adloniant yn 2018. Parhaodd y llwyddiant yng Ngwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol, gan ennill y wobr am y rhaglen blant orau.

Roedd Gorilla yn gyfrifol am yr ôl-gynhyrchu llun.