Projects Prosiectau

Ludus

Sioe chwarae ail-sgrin gyntaf CBBC, prosiect arloesol ym myd cynhyrchu teledu rhyngweithiol. Wedi ei darddu o sioe sci-fi S4C Y Lifft, mae Ludus yn rhoi cyfle i gystadleuwyr drechu dihiryn drwg o’r gofod er mwyn achub eu teulu ac ennill tocyn adref. Daw’r sioe gydag app iOS ac Android sy’n galluogi gwylwyr i gystadlu yn yr un sioe â’r cystadleuwyr eraill.

Fe gyfrannodd Gorilla i bob rhan o’r broses gynhyrchu gan ddarparu cyfleusterau cynhyrchu ar y set yn ogystal ag ôl-gynhyrchu.