BAFTA Cymru
Mae Gwobrau BAFTA Cymru wedi bod yn cael ei cynnal yng Nghaerdydd ers 29 mlynedd, a hon yw’r noson fwyaf nodedig ar gyfer dathlu ffilm a theledu yng Nghymru.
Yn ogystal â chategorïau sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn 26 o feysydd sy’n cwmpasu crefft, perfformio a chynhyrchu, a gyda mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn, mae’r digwyddiad hefyd yn dathlu dau unigolyn y mae eu gyrfaoedd ar eu hanterth drwy gyflwyno gwobrau arbennig iddynt.
Mae Gorilla yn cefnogi’r Gwobrau drwy weithio gyda’r cynhyrchydd cynnwys i greu pecynnau gwych o uchafbwyntiau ar gyfer y seremoni, yn ogystal â ffilmiau i arddangos llwyddiannau’r rheini sy’n cael gwobr arbennig, i gofio am ein cyfeillion fu farw eleni, ac i ddangos gwaith BAFTA Cymru drwy gydol y flwyddyn.