Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla, Richard Moss, wedi bod yn un o brif arddangosfeydd y diwydiant – BVE 2013 yng nghanolfan ExCel Llundain yn cymryd rhan ar banel arbenigol yn trafod rhai o’r prif faterion sy’n wynebu’r diwydiant darlledu ac ôl-gynhyrchu.
Wedi ei drefnu gan AVID, roedd y digwyddiad i’r wasg arbenigol yn cynnwys trafodaeth banel o’r enw Atebion i Storïwyr – ehangu tueddiadau darlledu y dyfodol oedd yn trafod a mynd i’r afael â rhai o’r prif heriau yn wynebu cwmniau sy’n ymwneud â gwaith ôl-gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Ynghyd a cadeirydd y sesiwn Adam Cos, Pennaeth Offer Darlledu yn Futuresource Consulting, ar y panel gyda Rich roedd Shane Warden o IMG Mediahouse, Ian Munford o dock10 a Tom Cordiner a Craig Dwyer o AVID.
Fy gymerodd Rich ran mewn dadl arall yn gynharach yn yr wythnos pan fu’n siaradwr gwadd mewn seminar fyw ar stondin AVID lle bu’n trafod gweithlif ar brosiect diweddar bu Gorilla’n cydweithio arni ar gyfer Disney.
Am y tro cyntaf roedd BVE 2013 yn cael ei gynnal mewn lleoliad newydd yng Nghanolfan Excel yn Llundain rhwng Chwefror 26ain a’r 28ain lle bu dros 350 o frandiau yn arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau.