
Hyfforddiant Ôl-gynhyrchu Proffesiynol Ar Gyfer y Diwydiant, gan y Diwydiant

YMGYSYLLTU

CYNGHORI

HYFFORDDI
Academi Gorilla yw is-adran Hyfforddiant ac Ymgysylltu Gorilla TV – cyfleuster Ôl-gynhyrchu mwyaf Cymru.
Mae’r Academi dan arweiniad Paul Hawke Williams, arbenigwr yn y diwydiant gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn rhedeg busnesau hyfforddi a gweithio mewn Ôl-gynhyrchu.
Cafodd yr Academi ei sefydlu er mwyn darparu hyfforddiant diwydiant perthnasol i newydd-ddyfodiaid a’r rhai sy’n ceisio ehangu eu sgiliau.
Bydd yr Academi hefyd yn darparu pwynt cyswllt i sefydliadau ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu Ôl-gynhyrchu a chynghori sgiliau.
Cydgysylltu â Sefydliadau Sgiliau, Sefydliadau Addysgol a Llywodraeth Leol.
Mae Academi Gorilla yn ymroddedig i rymuso unigolion, hyrwyddo rhagoriaeth mewn hyfforddiant, meithrin sgiliau ymarferol a datblygu crefft wrth annog cydweithio, rhwydweithio, arloesi a chefnogi dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol.
Wrth gofleidio’r egwyddorion hyn, ein nod yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol medrus a hyblyg fydd yn ffynnu ym myd Teledu a Ffilm.
Beth i ni’n gynnig
Hyfforddiant Meddalwedd Ardystiedig Avid
Hyfforddiant Media Composer a Pro Tools i gynhyrchwyr, cynorthwywyr a golygyddion
Hyfforddiant Meddalwedd Adobe
Hyfforddiant Premiere Pro ac After Effects (a mwy) ar gyfer y criw creadigol
Hyfforddiant Cymeradwy BlackMagic
Sgiliau golygu a graddio trwy ddefnyddio Davinci Resolve
Cynhyrchydd Golygu a Chydlynydd
Dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn Gynhyrchydd Golygu a Chydlynydd proffesiynol
Sylfaen Technegol Ôl-gynhyrchu
O osod Nexis i wneud QC, rydym yn ymdrin â phob agwedd o waith yr ystafell beiriannau
Graddio Lliw
Theori a throsolwg technegol o unioni a Graddio Lliw ar gyfer Golygyddion Ar-lein
Cefnogir Academi Gorilla gan un o Adnoddau Ôl-gynhyrchu mwyaf yn y DU
Mae’r Academi yn rhan o Grŵp Gorilla ac mae ganddynt fynediad at arbenigedd gan rai o weithwyr proffesiynol gorau’r byd. Mae’r mynediad hwn yn llywio’r cyrsiau a’r hyfforddiant rydym yn eu darparu gan sicrhau technegau perthnasol a chyfredol i’r holl ddiwydiant.

Hyfforddiant Wedi’i Gefnogi Gan



