MWY NA GWAITH ÔL-GYNHYRCHU
Caerdydd | Bryste | O BellArbenigwyr Script a Di-Sgript aml-genre, yn cynnig adnodau i’r Gwledydd a’r Rhanbarthau ar draws Cymru, Y Gorllewin ac Unrhyw le!
GWAITH DIWEDDAR
YNGLŶN Â GORILLA
Wedi’i sefydlu ym 1999, gyda chanolfannau ym Mryste a Chaerdydd, mae Gorilla yn darparu cannoedd o oriau o raglenni aml-genre, o gynyrchiadau dyddiol niferus i ffilmiau a dramâu ar gyfer holl ddarlledwyr y DU yn ogystal â dosbarthwyr a stiwdios rhyngwladol gan gynnwys HBO, Paramount, Netflix, Amazon a Disney+.
Mae ein pencadlys yng Nghymru yn ymestyn dros bum llawr ac yn gweithredu 24/7 ochr yn ochr â’n hail gyfleuster yng nghanol dinas Caerdydd a’n canolfan helaeth ym Mryste. Er ein maint, gyda dros 150 o ystafelloedd golygu, rydym yn parhau i gadw ein gwreiddiau bŵtic a gwerthoedd gwasanaeth cwsmer rhagorol.
Er mai ôl-gynhyrchu creadigol yw ein harbenigedd, rydym hefyd yn arbenigwyr mewn llifoedd gwaith technegol a rheoli cyfryngau, gan ddarparu cyfleusterau uwchgysylltu/isgysylltu lloeren, llinellau darlledu, stiwdios, rigiau sefydlog a galerïau darlledu byw. Mae ein harbenigwyr cyfryngau yn rheoli cannoedd o derabeitiau o gynnwys UHD/HDR, gan gynnwys llifoedd gwaith VFX gyda chyflenwyr ledled y byd. Rydym hefyd yn arloeswyr technegol, gan ddarparu model gweithio hybrid llawn ar y safle ac o bell i staff a chleientiaid.
ADNODDAU
Mae gennym bopeth y byddech yn ei ddisgwly gan gwmni ôl-gynhyrchu blaenllaw, ond rydym hefyd yn cynnig llawer o wasanaethau pwrpasol gan gynnwys recordio stiwdio aml-sianel, rigiau sefydlog, gwylio o bell, golygu Darllediadau Allanol a llawer mwy.
Rig sefydlog a recordio stiwdio
Rig sefydlog a recordio stiwdio
Recordio ISO HD neu 4K hyd at 32 sianel, recordio codec bras olygu a gwir olygu ar yr un pryd er mwyn sicrhau trosglwyddiad effeithiol o’r stiwdio i’r golygu. Camerau PTZ gyda gallu defnydd o bell llawn ar gyfer gosodiadau bach neu fawr.
Deunydd Crai 24/7
Deunydd Crai 24/7
Golygyddol ac o bell
Golygyddol ac o bell
PICTURE FINISHING A COLOUR
PICTURE FINISHING A COLOUR
Sain
Sain
Rheoli Ansawdd a Chyfleu
Rheoli Ansawdd a Chyfleu

Hyfforddiant Ôl Gynhyrchu proffesiynol,
i’r Diwydiant gan y Diwydiant.
Gweithiwch gyda ni
Rydym bob amser yn chwilio am dalent newydd i ymuno â’n tîm.
















