Cadw’n ddiogel yn ystod cyfnod Coronafeirws (COVID-19)
Rydym wedi asesu’r risg o COVID-19 yn Gorilla trwy gymhwyso canllawiau’r llywodraeth, a thrwy gyfrannu at a dilyn canllawiau UK Screen, “Safe Working in Post Production and VFX” ar draws ein busnes, i reoli risgiau diogelwch ac iechyd.
Rydym wedi parhau i weithio o bell trwy gydol y cyfyngiadau, a heb ruthro i gynnull ein staff sy’n gweithio o bell yn ôl yn y gweithle. Rydym wedi cymryd amser i fyfyrio a pharatoi ar gyfer dychwelyd fesul cam i’n normal newydd. Disgwyliwn i’n dull esblygu wrth i ni ddysgu ac addasu i heriau parhaus COVID-19.
Sut rydyn ni’n cadw pobl yn ddiogel
Rydym yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol er mwyn sicrhau ein bod yn rheoli lledaeniad COVID-19, gan gynnal asesiadau penodol ar gyfer cynyrchiadau a’n swyddfeydd, ac yn cadw mewn cysylltiad â’r gweithlu trwy gydol y broses:
Yn ein swyddfeydd
- Lleihau – lleihau nifer y bobl yn y swyddfa ar unrhyw adeg.
- Cyfathrebu – sicrhau bod y rhai sydd â symptomau neu sy’n sâl yn gwybod i beidio â dod i mewn i’r gwaith.
- Cymudo – ystyried risgiau wrth gymudo, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chyflwyno mesurau fel amseroedd cychwyn wedi eu darwahanu.
- Pellter Cymdeithasol – gwneud pob ymdrech i sicrhau y cedwir at bellter cymdeithasol trwy gynllunio gofod, protocolau ac arwyddion.
- Glanhau – ychwanegu at y protocolau glanhau.
- Gorchudd wyneb – darparu gorchuddion wyneb golchadwy i’r rhai a allai fod eu hangen wrth gymudo, ac i’w gwisgo mewn ardaloedd o’r swyddfa lle gellir torri pellter cymdeithasol ar ddamwain ar brydiau.
- Monitro – atgoffa pobl yn gyson o’r arferion gwaith COVID-19 newydd (fel pellhau cymdeithasol).
Yn ein gweithgareddau
- Teithio – ceisio lleihau gofynion teithio a dilyn egwyddorion pellhau cymdeithasol o fewn trefniadau teithio, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
- Lleoliad – ystyried y gofod a ddefnyddir, o ystyried gofynion pellter cymdeithasol, ynghyd â sicrhau bod cyfleusterau hylendid digonol yn cael eu darparu.
- Gweithgareddau Gwaith – ystyried y gweithgareddau y bydd angen i bobl eu cyflawni ar draws rolau, ac a oes modd addasu’r rhain neu eu newid er mwyn lleihau risg.
- Offer Gwaith – rheoli rhannu offer, o gamerâu a chlustffonau i ystafelloedd golygu. Canolbwyntio ar hylendid da a rheoli unrhyw faterion all godi gyda phwyntiau cyffwrdd.
- Patrymau Gwaith – adolygu patrymau gwaith er mwyn annog ffurfio grwpiau bach (carfannau) o bobl nad ydyn nhw’n dod i gysylltiad â grwpiau eraill.
- Ardaloedd Gorffwys – ad-drefnu mannau gorffwys a chynllunio seibiannau i sicrhau bod ardaloedd gorffwys mor ddiogel â phosibl.
- Cymorth Cyntaf a Gwasanaethau Brys – cynllunio gweithgareddau i leihau’r risg o fod angen
galw’r gwasanaethau brys, yn ogystal â chyngor i swyddogion cymorth cyntaf ar risg COVID-19.
- Masgiau, Menig ac Offer Amddiffynnol Personol Eraill – dilyn arweiniad y llywodraeth trwy beidio ag annog defnydd heblaw mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, ac i’r rheini sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Iechyd Meddwl – adolygu’r effaith bosibl ar iechyd meddwl y rheini sy’n gweithio ar gynyrchiadau a chynnig cefnogaeth ar sail achosion unigol.
Rydym yn angerddol bod gan bawb lais y gwrandewir arno, felly os ydych chi’n poeni am unrhyw beth sy’n ymwneud â’n dyletswydd gofal ac, yn fwy penodol, y risgiau sy’n gysylltiedig â Choronafeirws (COVID-19) i chi neu i eraill, rhowch wybod i ni yn hr@gorilla-group-tv.onyx-sites.io