Team Tîm

Eve Moss

Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cleientiaid Gorilla, mae Eve yn arwain y tîm sy’n gyfrifol am drefnu ein holl anfonebau, amserlenni ac archebu – cysylltu gyda’n cleientiaid, ein staff golygu a thechnegol a llawrydd.

Ymunodd Eve a Gorilla fel ein Golygydd Staff cyntaf yn 2000, cyn troi ei sylw at anfonebau, amserlenni ac archebion fel Rheolwr Cyfleusterau. Mae swyddogaeth Eve wedi datblygu gyda’r cwmni ac roedd hi’n rhan fawr o welliannau gwasanaeth a dylunio ar gyfer adleoliad Gorilla i GloWorks HQ. Mae Eve hefyd yn rhan o’r Uwch Dîm Rheoli.