News Gwasanaethau

Gwasanaethau Technegol

Y Tîm

Mae ein tîm yn gweithio o 7 y bore tan hanner nos, 6 diwrnod yr wythnos gan amlaf ac mae gennym dderbynnydd yma yn barod i dderbyn a dosbarthu ar unrhyw awr, dydd a nos.

Rheolaeth Archif a Chyfryngau

Mae ein system cadw awtomatig ac archifo yn cadw eich holl ddeunydd yn ddiogel gan ddefnyddio disg Matrix Store ac archif Storage DNA LT0 6. Gallwn hefyd gopïo rhwng ein safleoedd gwahanol yn dibynnu ar ofynion didoriant ac adfer trychineb eich busnes.

Dosbarthu

Mae gennym wasanaeth dosbarthu ffeiliau a QC pwrpasol wedi datblygu o gwmpas Content Agent Root 6 gyda Vidchecker.  Rydym yn aml yn dosbarthu ffeiliau AS11 a ffeiliau darlledu eraill i lawer o leoliadau cenedlaethol a rhyngwladol.