Golygu
Rydym yn uwchraddio yn gyson i’r fersiwn ddiweddaraf o 4K Avid, ac yn defnyddio’r caledwedd diweddaraf gyda sgriniau a monitorau HD.
Yn ein holl ystafelloedd golygu mae system awyru, seddi cyffyrddus a golygfeydd trawiadol dros Fae Caerdydd.
Gallwn ddarparu cinio i chi yn y fan a’r lle drwy ein gwasanaeth rhedwyr neu gallwch fanteisio ar y nifer fawr o gaffis a bwytai sydd o’n gwmpas.
Oes angen Avid ychwanegol i’ch prosiect?
Mae ein gweinydd trwydded – y cyntaf yn ôl-gynhyrchu ym Mhrydain – yn ein galluogi ni i ychwanegu gweithfan i unrhyw ystafell er mwyn cynnig Avid ychwanegol.