Projects Prosiectau

Bang

Stori drosedd am waed, cariad a pherthynas teulu yn nhref ddiwydiannol Port Talbot yw drama ddwyieithog, Bang

Mae Sam yn ŵr ifanc  tawel, ond daw tro ar fyd pan mae’n cael gafael ar wn ac yn dechrau torri’r gyfraith. Mae ei chwaer Gina yn blismones uchelgeisiol, ac yn benderfynol o ddod o hyd i berchennog y gwn.

Bydd y ddrama drosedd afaelgar hon yn darlledu ar S4C yn yr Hydref. Roedd Gorilla yn gyfrifol am yr ôl-gynhyrchu llun.