Projects Prosiectau

Bargain Hunt

Mae cyfres hen greiriau ‘Bargain Hunt’ BBC1 sy’n cael ei darlledu yn ystod y dydd, wedi bod ar ein sgriniau teledu ers ugain mlynedd bellach ac mae’n parhau i fod yn un o raglenni adloniant ffeithiol mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig. Mae’r gyfres yn cael ei gwneud yng Nghaerdydd gan Stiwdios y BBC, a chaiff ymron i 100 o benodau newydd eu ffilmio bob blwyddyn mewn neuaddau ocsiwn a ffeiriau ledled gwledydd Prydain.

 

Gorilla sy’n gyfrifol am yr holl waith rheoli’r cyfryngau, golygu ac ôl-olygu terfynol, a’r dosbarthu.