Polisi preifatrwydd

Eich preifatrwydd yw’n blaenoriaeth

Mae’ch data yn bwysig. Mae’n bwysig i ni, ac rydym yn deall ei fod yn bwysig i chithau. Mae Gorilla yn ymrwymedig i ddiogelu eich gwybodaeth yn unol â’r deddfau diogelu data a phreifatrwydd diweddaraf. Rydym hefyd am fod yn hollol eglur ynglŷn â pha wybodaeth y byddwn yn ei gasglu amdanoch, sut byddwn yn ei ddefnyddio a sut gallwch chi reoli’r hyn a wnawn gyda’r wybodaeth.

Ynglŷn â’r hysbysiad hwn

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â chasglu a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol gennym ni a phartïon a awdurdodir gennym, megis ein cyflenwyr ac isgontractwyr.

Mae’n berthnasol i’n gwasanaethau (y “Gwasanaethau”), gan gynnwys darparu cyfryngau cymdeithasol ac apiau rhyngweithiol, cynnwys clyweledol, testun, ffotograffau, fforymau, ôl-gynhyrchu a gwasanaethau eraill yr ydym yn eu cynnig yn www.gorillagroup.tv.  Maent hefyd yn cynnwys unrhyw un o’n gwefannau eraill, meddalwedd apiau ac/neu dechnolegau cyfathrebu sy’n galluogi pobl i ryngweithio â’n rhaglennu ac/neu edrych ar ein cynnwys dros rwydwaith symudol neu wi-fi.

Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych chi’n cydnabod telerau’r hysbysiad preifatrwydd hwn a’n Hysbysiad Cwci yn www.gorillagroup.tv. Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r rhybudd preifatrwydd hwn a’n polisi cwcis o dro i dro, a byddwn yn postio unrhyw newidiadau ar ein gwefan yn www.gorillagroup.tv.

 Yn yr hysbysiad hwn, mae “Ni” ac “Ein” yn golygu Gorilla TV Cyf.

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar y 24 o Fai, 2018.

Hysbysiadau ar gyfer gwasanaethau penodol

Efallai hefyd y byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau preifatrwydd penodol ar gyfer rhai o’n Gwasanaethau. Gall y rhain gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Os felly, bydd y ddau yn berthnasol, ond bydd yr hysbysiad preifatrwydd sy’n benodol i’r gwasanaeth dan sylw yn berthnasol os cyfyd unrhyw anghysondeb.

Pa wybodaeth a gesglir gennym?

Mae’r wybodaeth a gasglwn amdanoch yn dibynnu ar ba Wasanaethau rydych yn eu defnyddio, ond dim ond pan mae angen y byddwn yn casglu’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth a gesglir gennym yn cynnwys:

  • eich enw, cyfeiriad, côd post, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, rhif ffôn, manylion talu a manylion y Gwasanaeth(au) a ddefnyddir gennych.
  • gwybodaeth am eich defnydd o’n Gwasanaethau, gan gynnwys manylion eich cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), math o ddyfais a dynodwr, system weithredu, fersiwn porwr, data cwcis, y cynnwys a welwyd gennych a manylion eich symudiadau o amgylch y Gwasanaethau.
  • data lleoliad o’ch cyfeiriad IP neu trwy gael mynediad i leoli byd-eang ar eich dyfais (e.e. GPS)
  • data arall o dro i dro, i’n cynorthwyo i ddarparu gwell cynnwys a gwasanaethau i chi – er enghraifft, pan ofynnwn i chi lenwi arolwg neu holiadur;
  • data arall er mwyn adolygu cydymffurfiaeth â’n telerau ac amodau ac/neu fel arall, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith

Pryd a sut byddwn yn casglu gwybodaeth?

Gallwn ni (neu unrhyw drydydd parti sy’n awdurdodedig gennym) gasglu gwybodaeth amdanoch chi:

  • pan fyddwch yn cofrestru gyntaf ar gyfer ein Gwasanaethau neu’n diweddaru eich manylion
  • pan fyddwch yn prynu, neu’n tanysgrifio i gynnwys gennym ni
  • pan fyddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad, cais neu adborth arall
  • pan fyddwch yn cymryd rhan mewn rhyngweithiad (er enghraifft, pan fyddwch chi’n cystadlu mewn cystadleuaeth, yn ceisio am wobr neu’n pleidleisio mewn un o’n polau piniwn)
  • pan ofynnwch i ni anfon cyfathrebiadau fel diweddariadau neu gylchlythyrau atoch
  • wrth fonitro eich defnydd o’r Gwasanaethau
  • pan fyddwch yn anfon cyfathrebiadau atoch trwy’r Gwasanaethau
  • pan fyddwn yn gwirio cydymffurfiad â’n telerau ac amodau ac / neu yn ôl gofynion cyfreithiol
  • trwy ddefnyddio cwcis neu ddyfeisiau eraill (am ragor o fanylion, gweler ein Hysbysiad Cwcis yn gorillagroup.tv)
  • pan fyddwch yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i ni neu trwy’r Gwasanaethau
  • gan gyflenwyr trydydd parti sydd wedi cadarnhau eu bod wedi’u hawdurdodi i basio’ch gwybodaeth ymlaen atom yn unol â’ch hawliau cyfreithiol

Efallai y byddwn hefyd yn cyfuno’r wybodaeth a ddarperir gennych ar un Gwasanaeth gyda gwybodaeth a gasglwyd gan Wasanaethau eraill ac/neu gyda gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus neu a dderbyniwyd gan ffynonellau cyfrifol eraill. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei storio a’i ddefnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw ddata cofrestru rydych yn ei ddarparu i ni yn gywir ac yn cael ei diweddaru’n gyson.

Gall rhai o’n Gwasanaethau fod ar gael i chi dim ond os ydych chi’n darparu’r data y gofynnir amdano.

Ydyn ni’n defnyddio cwcis?

Gallwn ni, a’n trydydd partïon awdurdodedig, ddefnyddio cwcis ac/neu ddyfais arall i storio ac weithiau i dracio gwybodaeth amdanoch.  Efallai y byddwn hefyd yn cael gafael ar wybodaeth benodol sy’n cael ei storio ar y dyfeisiau a ddefnyddir gennych i gael mynediad i’n Gwasanaethau. Am ragor o fanylion am natur cwcis, y cwcis a ddefnyddiwn a sut i’w hanalluogi, ewch i’n Hysbysiad Cwcis yn www.gorillagroup.tv

Am ba hyd y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol?

Dim ond am gyhyd a bydd angen gwneud hynny y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol. Gall y cyfnod hwnnw fod yn hwy mewn rhai achosion na’i gilydd. Mae hyd y cyfnod cadw hwn yn dibynnu ar ddiben cael y data a’i natur.  Er enghraifft:

  • efallai y bydd angen i ni gadw rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch fel y gallwn ddelio ag unrhyw gwynion y gallech eu gwneud am y Gwasanaethau a ddarparwn i chi
  • os byddwch yn gofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich gwybodaeth bersonol ar gyfer marchnata uniongyrchol, mae angen i ni gadw digon o wybodaeth amdanoch i’n galluogi i sicrhau ein bod yn rhoi’r gorau i’ch cynnwys yn y gweithgareddau marchnata uniongyrchol hynny
  • efallai y bydd angen i ni gadw gwybodaeth bersonol er mwyn amddiffyn yn erbyn hawliadau cyfreithiol posibl yn y dyfodol. Oni bai bod rheswm arall dros ei gadw, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei ddileu pan na fyddai hawliadau cyfreithiol o’r fath bellach yn codi (rhaid cyflwyno’r rhan fwyaf o hawliadau cyfreithiol o fewn 6 mlynedd i’r digwyddiad a arweiniodd at yr hawliad, ac eithrio hawliadau anaf personol, ble mae’n rhaid eu cyflwyno o fewn 3 mlynedd)
  • efallai bod gennym ddyletswydd gyfreithiol neu reoleiddiol i gadw gwybodaeth bersonol benodol am gyfnod penodol (er enghraifft o dan reolau Ofcom, neu o dan reolau treth CThEM – HMRC)

Sut byddwch yn defnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Gallwn ni a’n trydydd partïon awdurdodedig ddefnyddio eich gwybodaeth mewn amryw o ffyrdd, i:

  • monitro, datblygu a gwella’r Gwasanaethau a’ch/neu’ch profiad ohonynt (gall hyn gynnwys personoli’r hysbyseb neu’r cynnwys a welwch)
  • cynorthwyo a gweinyddu darpariaeth y Gwasanaethau i chi
  • darparu argymhellion cynnyrch a Gwasanaeth i chi
  • prosesu taliadau oddi wrthych i ni (lle bo hynny’n berthnasol)
  • delio ag unrhyw gwynion neu ymholiadau a wneir gennych chi neu amdanoch chi
  • cysylltu â chi â negeseuon Gwasanaeth
  • monitro cydymffurfiaeth â’n telerau defnyddio neu delerau ac amodau eraill mewn cysylltiad â’ch defnydd o’r Gwasanaethau, a gwneud ymchwiliad i unrhyw dor-rheol posib
  • gweinyddu’ch gwobr a chyhoeddi manylion os ydych chi’n ennill cystadleuaeth
  • rhoi mynediad i chi i un neu fwy o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol o’r Gwasanaethau. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a rennir gyda darparwr rhwydwaith cymdeithasol trydydd parti yn cael ei brosesu yn unol â’u hysbysiad preifatrwydd ei hun.
  • geo-blocio neu ranbartholi ein Gwasanaethau i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol

Dim ond os oes gennym sail gyfreithiol i wneud hynny y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol. Yn gyffredinol, dim ond ar y sail ganlynol y byddwn yn ei brosesu:

  • rydych chi wedi rhoi caniatâd ar gyfer y prosesu. Pan fyddwn yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich gwybodaeth bersonol, mae gennych chi bob amser yr hawl i dynnu’r caniatâd hwn yn ôl (gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Gwasanaeth perthnasol am fanylion sut i dynnu’ch caniatâd yn ôl)
  • mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawniad cytundebol yr ydych yn barti iddo (gan gynnwys telerau ac amodau’r Gwasanaeth perthnasol)
  • mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn cymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i gytundeb
  • mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol a osodwyd ar Gorilla
  • mae’r prosesu yn angenrheidiol at ddibenion y buddiannau dilys a ddilynir gan Gorilla neu gan drydydd parti. Er enghraifft, mae gennym ddiddordeb dilys o ran deall sut mae pobl yn defnyddio ein Gwasanaethau, er mwyn eu gwella. Felly, efallai y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i ddeall a dadansoddi eich defnydd o’n Gwasanaethau. Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, efallai bod gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu yn seiliedig ar fuddiannau dilys o’r fath. Pan mae’r hawl hwnnw i wrthwynebiad yn berthnasol, bydd manylion ynglŷn â sut i ymarfer yr hawl hwnnw yn cael eu nodi yn y rhybudd preifatrwydd ar gyfer y Gwasanaeth perthnasol.

A fyddwn yn anfon negeseuon marchnata atoch?

Dim ond os ydych yn nodi eich caniatâd i ni wneud hynny (er enghraifft, trwy optio i mewn) y byddwch yn derbyn negeseuon o’r fath. Ble mae gennym eich caniatâd, gallwn:

  • anfon gwybodaeth atoch trwy e-bost, dros y ffôn (gan gynnwys SMS ac MMS), trwy’r post neu trwy ddulliau cyfathrebu eraill ynglŷn â Gwasanaethau presennol a newydd a chynigion arbennig gennym ni
  • anfon gwybodaeth atoch trwy e-bost, dros y ffôn (gan gynnwys SMS ac MMS), trwy’r post neu trwy ddulliau cyfathrebu eraill ynglŷn â nwyddau neu wasanaethau cysylltiedig trydydd partïon dethol a allai fod o ddiddordeb i chi
  • rhannu’ch manylion gyda thrydydd partïon dethol er mwyn iddynt anfon gwybodaeth atoch trwy e-bost, ffôn (gan gynnwys SMS ac MMS), trwy’r post neu trwy ddulliau cyfathrebu eraill am nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi.
  • Mae’r hawl gennych bob amser i wrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Am fanylion ynglŷn â sut i arfer yr hawl hwnnw, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Gwasanaeth perthnasol. Yn gyffredinol:
  • er mwyn rhoi stop ar dderbyn cyfathrebiadau marchnata oddi wrthym, gallwch ddefnyddio’r ‘dad-danysgrifio’, ‘stopio’ neu gyfleuster tebyg sydd wedi’i gynnwys mewn unrhyw gyfathrebiad o’r fath. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom i’r cyfeiriad e-bost a nodir yn ‘Cysylltu â ni’ isod, gan nodi nad ydych am dderbyn rhagor o gyfathrebiadau oddi wrthym ni.
  • er mwyn optio allan o dderbyn cyfathrebiadau o’r fath gan drydydd parti, bydd angen i chi gysylltu â’r trydydd parti perthnasol. Noder nad ydym yn gyfrifol am y cyfathrebiadau a dderbyniwch gan unrhyw drydydd parti o’r fath.
  • Nid ydym yn trosglwyddo nac yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon at unrhyw ddiben arall nag a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu mewn unrhyw hysbysiad preifatrwydd perthnasol sy’n benodol i’r Gwasanaeth. Oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd i ni roi eich manylion i drydydd parti ar gyfer marchnata, nid ydym yn rhoi mynediad i unrhyw drydydd parti i’ch manylion ar gyfer marchnata. Cynhelir y marchnata y cyfeirir ato yn yr adran hon gennym ar ein rhan ni, neu ar ran trydydd partïon.
  • Os byddwch yn lawrlwytho un o’n apiau symudol, gallwn anfon negeseuon atoch, gan gynnwys negeseuon marchnata, trwy hysbysiadau ymwthiol (‘push’). Gallwch analluogi’r rhain ar unrhyw adeg trwy newid y gosodiadau hysbysu ar eich dyfais symudol neu drwy ddadosod yr ap.

Ydyn ni’n rhannu’ch gwybodaeth?

Efallai y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth amdanoch i bartïon eraill fel a ganlyn:

  • i drydydd partïon a awdurdodir gennym ac sy’n gweithredu ar ein rhan, megis ein gweithwyr, contractwyr, cyflenwyr ac/neu asiantau, i weinyddu’r Gwasanaethau a ddarperir i chi. Gall y trydydd partïon hyn gael mynediad i’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau’r Gwasanaethau neu i ddarparu gwasanaethau i ni. Nid oes hawl ganddynt ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
  • ar gyfer cyfathrebiadau marchnata, lle mae gennym eich caniatâd i wneud hynny (gweler yr adran uchod ar “A fyddwn yn anfon negeseuon marchnata atoch?)
  • fel rhan o wybodaeth ystadegol gyffredinol am ddefnyddwyr y Gwasanaethau, patrymau gwerthu, swmp traffig a materion cysylltiedig. Ni fydd y wybodaeth hon yn cynnwys manylion y gellid adnabod y person hwnnw ohonynt.
  • at ddibenion mesur y diwydiant (er enghraifft, y Broadcasters Audience Research Board).
  • i’r heddlu, cyrff rheoleiddio neu gynghorwyr cyfreithiol mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd honedig, gweithgaredd anghyfreithlon neu amheuaeth o dorri’r Telerau Defnyddio ac/neu dorri telerau ac amodau eraill neu fel arall, lle bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu os ydym yn amau niwed neu niwed posibl i eraill. Byddwn yn cydweithredu ag unrhyw awdurdodau gorfodi cyfraith neu orchymyn llys sy’n gofyn i ni neu yn ein cymell i ddatgelu manylion neu leoliad neu unrhyw wybodaeth arall am unrhyw un sy’n torri unrhyw delerau ac amodau perthnasol neu ar gyfer atal neu ddatgelu troseddau neu erlyn troseddwyr.
  • lle bo’n berthnasol, gellir cyhoeddi’r enw defnyddiwr a rhywfaint o wybodaeth proffil y byddwch chi’n ei ddarparu’n wirfoddol ar rannau o’r Gwasanaethau megis fforymau, tablau safle, ‘stafelloedd sgwrsio neu dudalennau lle mae cyflwyniadau defnyddwyr yn cael eu harddangos, a hwnnw fydd yr enw defnyddiwr a ddefnyddir gennych yn y rhannau hynny
  • os oes newidiadau i’n busnes (gweler yr adran isod ar ‘Newidiadau i’n busnes’)

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â rhannau eraill o’r grŵp cwmnïau ITV. Rydym yn gwneud hyn er mwyn:

  • darparu profiad mwy personoledig ar draws y gwahanol Wasanaethau
  • darparu a/neu reoli Gwasanaethau croesol neu ryng-grŵp
  • darparu gwasanaethau a chynhyrchion eraill yr ydych yn gofyn amdanynt neu a allai fod o ddiddordeb i chi

Beth yw eich hawliau?

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei ddarparu yn cael ei drin yn unol â chyfreithiau diogelu data perthnasol gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol neu ddisodol arall. Rydym yn ymrwymedig i gyflawni’r hawliau y mae gan unigolion hawl iddynt o dan gyfreithiau diogelu data yn y DU, sef:

  • yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol rydym yn ei ddal amdanoch chi. I wneud hyn, cysylltwch â ni yn gdpr@gorillagroup.tv gan wneud yn glir eich bod yn gofyn am gopi o’ch gwybodaeth bersonol. Cofiwch gynnwys manylion llawn yr hyn rydych ei angen. Efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno prawf adnabyddiaeth hefyd.
  • yr hawl i wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol. Lle bo angen, byddwn yn sicrhau ein bod yn cael eich caniatâd cyn ymgymryd â marchnata a bydd gennych y gallu i optio allan.
  • yr hawl i wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu lle mae’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu ein buddiannau cyfreithlon ein hunain fel busnes (gweler ‘Sut fyddwn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth?’ Uchod). Byddwn yn cydymffurfio â chais o’r fath oni bai fod rheswm cyfreithlon dros beidio â gwneud hynny, megis pan fydd angen i ni barhau i brosesu eich gwybodaeth i amddiffyn hawliad cyfreithiol neu os yw’r wybodaeth hon yn angenrheidiol ar gyfer darpariaeth gyfredol ein Gwasanaethau.
  • yr hawl i gywiro. Gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth bersonol anghywir ac/neu anghyflawn.
  • yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl. Lle rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar y sail eich bod wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny yn y lle cyntaf, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
  • yr hawl i ddileu. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ac fe fyddwn yn cydymffurfio, oni bai fod rheswm cyfreithlon dros beidio â gwneud hynny. Er enghraifft, gall fod rheswm hollbwysig dros gadw eich gwybodaeth bersonol, fel cadw eich manylion talu am sawl blwyddyn er mwyn cydymffurfio â rheolau Cyllid a Thollau EM.
  • yr hawl i gludo data. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gofyn i ni ddarparu eich gwybodaeth bersonol i chi mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac yn ddarllenadwy ar gyfer peiriannau a’i drosglwyddo i ddarparwr arall o’r un gwasanaethau neu wasanaethau tebyg i ni. Pan mae’r hawl yma yn berthnasol, byddwn yn cydymffurfio gyda’r trosglwyddiad, cyn belled ag y bo’n dechnegol ymarferol.
  • yr hawl i gyflwyno cwyn gyda’r awdurdod goruchwyliol. Awgrymwn eich bod yn cysylltu â ni am unrhyw gwestiynau neu os oes gennych gwyn ynglŷn â sut yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i gysylltu â’r awdurdod goruchwylio perthnasol yn uniongyrchol. I gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig, ewch i wefan ICO i gael cyfarwyddiadau.

Yr hyn nad yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ei gynnwys

Nid yw’r rhybudd preifatrwydd hwn yn cwmpasu cwmnïau, gwasanaethau na cheisiadau nad ydym yn berchen arnynt nac yn eu rheoli, na phobl nad ydym yn eu cyflogi na’u rheoli. Mae hyn yn cynnwys (heb gyfyngiad) wefannau neu apiau/widgets o wefannau trydydd parti (er enghraifft, o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook neu Twitter) yr ydym yn dolennu â hwy neu’n eu cynnig trwy ein Gwasanaethau. Nid yw’n cynnwys hysbysebwyr, felly os ydych chi’n clicio ar hysbyseb aiff â chi i wefan yr hysbysebwr hwnnw, gwiriwch eu hysbysiad preifatrwydd nhw.

Yn ogystal, nid yw’n cwmpasu rhai tudalennau a gwasanaethau a ddarperir trwy ein Gwasanaethau sy’n cael eu cynnal, eu rheoli a’u gweithredu gan bartïon eraill. Mae’r trydydd partïon, yr apiau a’r gwasanaethau hyn yn gwbl annibynnol ohonom ni ac maent yn gwbl gyfrifol am bob agwedd o’u perthynas â chi ac unrhyw ddefnydd y gwnewch ohonynt. Efallai y bydd ganddynt eu hysbysiadau preifatrwydd eu hunain ac/neu delerau ac amodau defnyddio. Yr ydym yn argymell eich bod yn darllen y pethau hyn cyn ei ddefnyddio.

Darparwyr gwasanaeth wedi eu lleoli y tu allan i Ewrop

Defnyddiwn gwmnïau trydydd parti penodol i gyflawni rhai swyddogaethau o’r Gwasanaethau ar ein rhan neu i ddarparu gwasanaethau i ni. Dim ond yn ôl yr angen y caiff y trydydd partïon hyn fynediad i’ch gwybodaeth, er mwyn cyflawni swyddogaethau o’r fath neu i ddarparu gwasanaethau o’r fath. Nid os hawl ganddynt ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

Mae rhai o’r cwmnïau trydydd parti hyn wedi eu lleoli, neu mae ganddynt weinyddwyr sydd wedi eu lleoli, y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Pan fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â chwmnïau o’r fath, rydym yn cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Fodd bynnag, noder na all diogelu data a chyfreithiau eraill gwledydd o’r fath fod mor gynhwysfawr â’r rhai yn Ardal Economaidd Ewropeaidd. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y trosglwyddir eich gwybodaeth bersonol i diriogaeth sy’n gorwedd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd:

  • mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi penderfynu bod lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer gwybodaeth bersonol wedi’i sefydlu yn y wlad y trosglwyddwn eich data iddo
  • mae cymalau diogelwch data safonol fel y’u mabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn eu lle ac yn rheoli’r trosglwyddiad (gallwch weld y cymalau safonol ar wefan gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd yn eur-lex.europa.eu)
  • ar gyfer trosglwyddiadau i UDA, mae’r sefydliad sy’n derbyn yn rhan o’r rhaglen EU-US Privacy Shield; neu
  • mae mesurau diogelu priodol eraill wedi’u sefydlu, fel y’i disgrifir yn yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Gwasanaeth perthnasol

Newidiadau i’n busnes

Os byddwn yn penderfynu newid neu ailstrwythuro ein busnes, efallai y bydd angen i ni basio’ch gwybodaeth bersonol i un o’n cwmnïau grŵp fel y gallwn barhau i ddarparu’r Gwasanaethau yn effeithiol i chi.

Hefyd, os ydym yn rhan o gyfuniad, gaffaeliad, ailstrwythuriad, ad-drefniad neu drafodyn arall sy’n cynnwys gwerthu holl asedau neu ran o asedau ein grŵp o gwmnïau, gall eich gwybodaeth gael ei gynnwys yn yr asedau a drosglwyddir i’r perchennog newydd, ac efallai yn cael ei ddarparu i’r endidau a’r ymgynghorwyr dan sylw. Gall trosglwyddiad o’r fath olygu ein bod yn: (i) cadw’r hawl i barhau i ddefnyddio gwybodaeth bersonol a drosglwyddir yn ychwanegol at hawl y perchennog newydd i ddefnyddio gwybodaeth o’r fath; a (ii) cymryd rhan mewn trosglwyddiadau ychwanegol o wybodaeth bersonol (gan gynnwys gwybodaeth bersonol newydd) gyda’r perchennog newydd o bryd i’w gilydd, yn dilyn trafodaeth o’r fath.

 

Os oes newidiadau i’n busnes (megis ad-drefnu neu ailstrwythuro), bydd eich gwybodaeth bersonol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r hysbysiad preifatrwydd hwn (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd). Fodd bynnag, lle mae trosglwyddir eich gwybodaeth bersonol i berchennog newydd yn dilyn uno neu gaffaeliad, gall fod yn destun hysbysiad preifatrwydd gwahanol. Byddwn ni, neu’r perchennog newydd, yn rhoi rhybudd i chi cyn bod unrhyw wybodaeth bersonol yn dod yn destun hysbysiad preifatrwydd gwahanol.

Rheolydd Data

Mae Gorilla TV Cyf yn gwmni a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr a swyddfa gofrestredig Gloworks, Porth Teigr Way, Caerdydd. CF10 4GA.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn rheoleiddio ein prosesu o’ch gwybodaeth bersonol. Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i’r ICO. Mae manylion cyswllt yr ICO i’w gweld ar eu gwefan, sef ico.org.uk.

Os hoffech gysylltu â ni am ein hysbysiad preifatrwydd, anfonwch e-bost atom yn gdpr@gorillagroup.tv