Tŷ ôl-gynhyrchu yw Gorilla wedi ei leoli yng Nghaerdydd sy’n arbenigo yn y cyfryngau darlledu a ffilm.
Mae’n staff cyfeillgar a’n cyfleusterau yn cyfuno rhagoriaeth greadigol a thechnegol ac rydym yn cynnig hynny gyda chroeso Cymreig twymgalon o’n pencadlys ym Mae Caerdydd.
Mae ein cartref newydd yn y GloWorks yn meddu ar 60 stiwdio Avid, stiwdio Graddio Baselight a stiwdio ddybio Pro Tools gyda ADR/VO.
Ac os nad yw hynny’n ddigon rydym yn cynnig coffi gwych, te a chacen ddydd Iau, gwin ar ddydd Gwener a golygfeydd godidog ar draws Bae Caerdydd.
Mae ein portffolio o’n gwaith i gleientiaid yn cynnwys chwaraeon, drama, dogfennau ac adloniant ar gyfer rhai o ddarlledwyr mwyaf y DU.
Mae croeso i chi gysylltu am sgwrs i drafod eich gofynion ôl-gynhyrchu.